
Ar yr 16eg o Hydref 2012 mae Ysgol Santes Helen yn dathlu ei chamlwyddiant. Cafodd yr ysgol ei sefydlu gan Offeiriad ifanc. Dyma adroddiad ar sut y ddigwyddodd hyn.
Doedd yna ddim offeiriad Catholig parhaol yng Nghaernarfon tan y 19eg ganrif pan ddaeth llawer o Wyddelod i’r ardal, yn dianc o’r newyn yn eu gwlad. Oherwydd hyn, daeth galw am offeiriad yn y Dre, a dyna ddigwyddodd.
Ym 1872 daeth Cymro Cymraeg, y Tad John Hugh Jones o’r Bala, yn offeiriad i’r Dre gyda’r weledigaeth nid yn unig i wasanaethu’r newydd ddyfodiaid ond hefyd i ddod â’r Eglwys yn rhan annatod o’r gymuned Gymraeg leol. Cyrhaeddodd Caernarfon yn 29 oed, yn llawn brwdfrydedd dros ei alwad newydd. ‘Roedd yn dipyn o gymeriad yn ôl y sôn, ac fe’i welwyd yn aml yn reidio rownd y Dre ar ei feic “Penny-Farthing”.
‘Roedd yn weithgar iawn yn hyrwyddo’r Eglwys, ac yntau fu’n gyfrifol am adeiladu Eglwys Santes Helen yn Twtil. Yn ogystal, dechreuodd ysgol yn ei gartref gan addysgu’r plant ei hun. Ceisiodd gael arian cyhoeddus i gyflogi athro proffesiynol ond bu’n aflwyddiannus oherwydd gwrthwynebiad chwyrn rhai o drigolion y Dre i ariannu addysg Gatholig. Penderfynodd felly sefyll fel cynghorydd ei hun ac, er gwaetha’r ffaith mai dim ond 20 o Gatholigion oedd wedi’u cofrestru yn y Dre, fe’i hetholwyd a llwyddodd i sicrhau’r arian angenrheidiol i barhau gyda’r fenter.
‘Roedd y Tad Jones yn benderfynol y dylai’r Eglwys ddefnyddio iaith y bobl a mynnodd ddathlu’r Offeren trwy gyfrwng y Gymraeg. Ysgrifennodd adroddiad ar gyflwr yr Eglwys Gatholig yng Nghymru ar gyfer yr Esgob Knight ym 1893 gan ddatgan bod pobl Cymru angen gwasanaethau a llyfrau Catholig yn eu hiaith eu hunain.
Bu’r Tad Jones yn offeiriad yn y dre hyd at 1908, a phlannodd yr hadau ar gyfer y datblygiadau oedd i ddilyn. Ym 1912 gwireddwyd un o’i freuddwydion mawr wrth weld adeiladu Ysgol Santes Helen. Parhawyd gyda gweledigaeth y Tad Jones trwy’r ugeinfed ganrif, yn enwedig dan ofalaeth y Tad MacNamara, neu Father Mac fel oedd pawb yn Dre ei adnabod. Mae’r freuddwyd yn fyw hyd heddiw gyda’r plwyf dan ofal Cymro Cymraeg arall, y Tad Gordon Campbell, ac Ysgol Santes Helen wedi sefydlu ei hun fel yr unig ysgol Gatholig yn y byd sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.
Bydd dathliadau 100 mlynedd ers adeiladu Ysgol Santes Helen yn parhau trwy’r flwyddyn ysgol. Bydd manylion ar gael yn yr Alwad a chylchlythyr yr ysgol.