
Hanes ddoe a breuddwydion fory – dyma themau gwaith celf anghygoel plant a phobl ifanc Cofis Bach a Chofis Mawr a welwyd yn y castell yn yr Haf fel rhan o brosiect Crochan A Ffwrnais yr Olympiad Ddiwylliannol 2012. Rhyfeddwyd at y tîpis trawiadol , y lliwiau llachar a’r delweddau difyr a welwyd yn Nhŵr yr Eryr, a’r rhubanau lliwgar yn chwifio’n hudolus yn y ffenestri . Yn theatr y castell a hefyd fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Arall Caernarfon cafodd ffilm newydd Cofis Bach ymateb gwych. Drwy ddefnyddio pypedau cysgod mae’r plant wedi cynhyrchu ffilm arbennig ac maent wedi lleisio’n gelfydd cymeriadau adnabyddus o’n gorffennol.
“ Mae’r plant wedi gweithio’n galed i greu ffilm gwreiddiol a diddorol dros ben” meddai’r tiwtor Siwan llynor.
Llongyfarchiadau i’r plant a’r bobl ifanc ar eu doniau arbennig!