Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Beth ddaw i Bendref? | Papur Dre

Beth ddaw i Bendref?

pdre3

Annwyl Papur Dre,

Pan dderbyniais y rhifyn diwethaf roeddwn yn barod i gychwyn ar wyliau i ddathlu 47 mlynedd o fywyd priodasol, felly gyda thristwch y darllenais am werthiant Capel Pendref gan mai yno y priododwyd ni gan y diweddar Parch R Lloyd Mathews. Ef hefyd a’m derbyniodd yn gyflawn aelod o’r capel.

Mae cysylltiad y teulu yn mynd yn ôl yn bell.

Cofiaf fy nain Mrs Williams Siop Bach Barranco, St David’s Road, a’i chwiorydd a drigai yn Church Lane a Ty’n Cei yn mynychu y capel. Roedd fy modryb Mrs Jennie Hughes, Post Office St David’s Road yn arfer chwarae’r organ a bu fy nhad a’m mam Will a Dilys Williams Barranco a Berain gynt, yn weithgar iawn yno ar ôl i ni’r plant adael y nyth. Yno y bedyddiwyd a derbyniwyd fy chwiorydd Judith, Eryl a Carolyn ac fe briodwyd Carolyn gyda Trefor Glyn Jones ddeng mlynedd yn ddiweddarch na ni.

Pan oeddem yn blant daethom o dan ddylanwad Miss Lena Evans (merch y Parch E T Evans) yn yr Ysgol Sul a’r Band of Hope. Y plant a gofiaf fwyaf yno oedd Teulu Rawles oedd yn perthyn i ni, Margaret Sandra, a welwyd wrth yr organ yn y llun, a diolch iddi am ei ffyddlondeb, Menna Jones, Derek Wilson a ni ein pedair.

Y tro olaf y buom yno fel teulu oedd pan y cyflwynon gopi o Ganeuon Ffydd a chynhwysydd blodau er cof am ein rhieni.

Tybed beth a ddaw o’r hen adeilad?

Yn gywir

Buddug Jones