Mae Emrys yn wyneb cyfarwydd o gwmpas dre a phawb wedi arfer ei weld efo locsyn dan ei ên. Mae’n 30 mlynedd ers iddo fo siafio ddiwetha. Ond, mae’n cael ei ben-blwydd yn 60 oed ar Ionawr 1af, ac mae wedi penderfynu eillio’r cyfan er mwyn codi pres at Hosbis Sant Cyndeyrn yn Llanelwy. Ar Ionawr 12fed y mae’n gobeithio gwneud hyn. Elusen leol yw’r Hosbis sy’n rhoi gofal diwedd oes i gleifion oedrannus ar draws gogledd Cymru. Er bod y gofal yn rhad ac am ddim i’r cleifion nid yw heb ei gostau – mae’n costio tua £1.6 miliwn y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth.
Meddai Emrys, “Dwi eisoes wedi cael 2 gynnig i fod yn Siôn Corn ac mae Cofis Dre yn fy ngalw yn Uncle Albert erbyn hyn!”