
Bu nifer o ddisgyblion Blwyddyn 12 yn brysur y llynedd yn dilyn cwrs Arweinydd Chwaraeon yn y Gymuned. Erbyn hyn, mae’r disgyblion hyn ym mlwyddyn 13 ac i gwblhau’r cwrs, mi dreulion nhw ddau ddiwrnod yn cynnal gweithgareddau adeiladu tîm a datrys problemau i ddisgyblion newydd yr ysgol.
“Mi wnes i fwynhau dilyn y cwrs ac roedd cyflwyno’r gweithgareddau yn hwyl ac yn ffordd dda o ddod i adnabod disgyblion newydd yr ysgol,” meddai Lliwen Jones Blwyddyn 13.
Roedd disgyblion Blwyddyn 7 wedi cael hwyl yn ôl Heledd Davies, a ddywedodd; “Mi wnes i ddod i adnabod y plant eraill yn fy nosbarth wrth weithio efo nhw i wneud y gweithgareddau gwahanol yn y Ganolfan.”