Gwenllian merch Llywelyn Fawr

pdre17

Gwenllian, merch Llywelyn Fawr, yw’r ferch yn y llun, a William Lloyd Davies, un o gynghorwyr Cyngor Tref Caernarfon sy’n syllu arni yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Llun gan Christopher Williams ydy o sy’n dangos Gwenllian yn deffro o’i thrwmgwsg ar ôl cannoedd o flynyddoedd i weld Cymru yn adfywio.

Rhoddwyd y llun ar fenthyg am gyfnod i’r Llyfrgell Genedlaethol gan Gyngor Tref Caernarfon, ond mae bellach wedi dod adref i’r Institiwt. Gallwch ei weld yn rhad ac am ddim yn Ystafell Seiont.

Ac os yw’r llun yma’n apelio, gallwch weld rhagor o waith Christopher Williams gan fod arddangosfa o’i luniau yn yr Oriel ym Mangor tan Tachwedd 17eg (yn ymyl gorsaf y bysus).