
Shoc horyr. Drygs rêd yn y Castell [y pyb] a’r lle ar gau am wythnosau. Lle da am fwyd wedi diflannu – dros dro beth bynnag. Mi fydd yn rhaid i ni aros cyn iddo fo ail agor (i fwyta) gan nad ydy’r popty PIZZA heb gyrraedd. Ia, ma’r lle yn troi o fod yn dŷ bwyta Cymreig o safon i le Eidalaidd arall. O’r Castle i Castell a rŵan i Castello?! Mae na hyd yn oed sôn am newid yr enw i Cibo neu rywbeth. Mama Mia! Ond meddyliwch, drygs rêd a wedyn troi yn ristorante? Ydi dwylo’r Maffia [go iawn] tu ôl i hyn? Gwell checio am wn wedi’i guddio tu ôl i’r sistern yn y gents cyn teimlo’n ddigon cyfforddus i eistedd i lawr am y pasta!
Ma’r Wal hefyd yn gwneud bwyd Eidalaidd fel y Villa Morris Marina. Wedyn ma na Indians a Grîcs – dim at ddant bawb mwy nag ydy Fu’s, sy braidd yn bell o ganol Dre. Be sy di digwydd i’r bwyd Cymreig? Y Blac a Stones ella? Neu beth am y Bistro? Sôn bod fan’no yn mynd i ail agor. Dan ni’n gobeithio’n arw.
Trist ydi gweld y Maes, efo ymerodraeth China i gyd yn wag (proses ara ydy’r ail wampio ’ma ma raid) a’r Morgan Lloyd ar gau. Sa chi’n meddwl basa’r Maes yn le hawdd i lwyddo ynddo fo. Mae’n rhaid – rywbryd – gadael i fwytai a thafarnau wneud gwell defnydd o’r gwagle yng nghanol y Maes neu ddenu mwy o farchnadoedd amrywiol. Neu’r ddau…ar amseroedd gwahanol! Be am: dim traffig rhwng 10 y bore a 6 y nos a dim rhwng 10 bore Gwener tan 6 bore Llun heblaw am gerbydau’r farchnad a’r cyngor i llnau? Ella bod angen rhyw fath o bafiliwn bychan i gadw dodrefn dros nos. Rwbath! I’r Maes gael ei ddefnyddio – yn enwedig yn yr haf. ‘Tacsis’ glywa i bobl yn gweiddi, felly beth am wneud ranc fechan yn Pool Side yn ystod y dydd a throi y ‘wan wê’ ffor’ arall i adael i geir fynd yn syth i’r Bont Bridd. Fasa Stryd Llyn yn gwneud ranc iawn ar ôl 6 y nos felly pam ddim gadael tacsis i ddreifio i fyny Pool Hill a throi i’r chwith a chael ranc yn fan’no. Hefyd, be am wneud ranc yn y maes parcio tu ôl i Wetherspoons wrth ymyl yr Empire. Ocê, mi fasa’n colli rhywfaint o bres i’r cyngor ond mi fasa newid trefn tacsis yn rhoi’r Maes yn ôl i’r Cofis a phawb arall sydd yn dod i Dre.
Mi fasa’r ceir get awê yn methu mynd a dŵad i’r Castello wedyn hefyd – fasa’n ei g’neud hi’n fwy diogel i fwyta yno!
Tan mis nesa, arrivederci !