Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Llwyddiant Hafan Bach | Papur Dre

Llwyddiant Hafan Bach

pdre7

Mi fuodd plant blwyddyn 3/4 dosbarth Hafan Bach Ysgol Maesincla yn brysur iawn dros dymor yr Haf yn plannu llysiau. Balchder oedd ar eu hwynebau wrth iddynt godi’r moron o’r ardd, gweld y fasged yn llenwi a dod ar draws 2 foronen anferth oedd yn fwy na 50cm o hyd ac yn drwchus iawn!! Cafodd y plant gyfle i goginio cawl gyda’r moron. “Mmmm blasus iawn!” oedd eu hymateb. Llongyfarchiadau i’r plant am eu gwaith caled yn yr ardd yn gofalu am y llysiau.