Mis Dyl Mei

Mis Dyl Mei ar Twitter…

Hydref

1: Be ti’n galw stiw o lerpwl sydd wastad yn creu trwbwl? Yob scows.

3: Be di tywydd gora south walien cross dresser? Tranni.

9: Mae ‘na lwyth o bobol o’r enw Efa, ond dwi erioed di clywed am rywun yn cael i alw’n Adda.

10: Dwi newydd gael row gan Dei Tom am ddeud y gair “Doswch”. Mae o’n deud dio’m yn air iawn. Ond mae o’n anghywir.

14: Angen rhywun gychwyn cwmni sy’n cyhoeddi awduron sydd wedi marw yn unig: Gwasg Goner.

15: Dwi wrth fy modd hefo Nigella, ond bobol bach, siwr bod hi’n torri gwynt drewllyd ar y diawl, ag yn aml.

19: Dwi am gychwyn galw’n hun yn Dill May o hyn ymlaen, ond dim ond pryd dwi’n siarad hefo bobol di Gymraeg ynde.

21: Dechrau Canu Dechrau Camel. Rhaglen ble mae bobol hen yn gorfod cerddad i ganol y Sahara i ganu. Heb ddŵr.

24: Am gychwyn mudiad i gael y gair “doswch” mewn i’r geiriadur. Rhywun arall isio ymuno?

26: Edrych ar clips S4C yn 30 ar ei wefan, argian fawr, oedd Ffalabalam yn creepy doedd? Superted sy’n cael y pleidlais yna.

31: Geiriadur yr academi yn deud bod “I’ve been like a zombie all day” ydi “rydw i wedi bod fel brechdan drwy’r dydd”. Zombies = Bara!