
Yn ôl ffynonellau Papur Dre, mae ’na lawer o newid ar droed yma: busnesau’n symud, siopau newydd yn agor a rhai’n datblygu i feysydd newydd.
Gan fod y farchnad dan do wedi cau am gyfnod, mae rhai o’r busnesau wedi symud: Siop Frances Lewis (Sewing), Sŵn y Dre Steve Pablo, a Gweledigaeth Owen Llŷr wedi mynd i Gronant. Mae Haberdashery YLP wedi cael cartref newydd yn siop Gray Thomas Stryd y Plas.
Mae O La La – Salon de Beaute (Off dy Ben gynt), meddai’r merched oedd yn paratoi’r lle, ar fin agor fel siop deganau a dillad plant, ac erbyn hyn, Rhyfeddodau Scott ydi siop Edge.
Mae sôn bod ATS/Prince of Wales yn mynd i fod yn gartref i Home Bargains a’i faes parcio.
Bwyty a bar Eidalaidd fydd yn Castell, medden nhw, tra bo Cogydd presennol Castell, Dan ap Geraint ar ei ffordd i’r hen fistro yn Stryd Twll yn y Wal ac yn bwriadu agor ei fwyty ei hun yno cyn Dolig.
Y si yw mai siop ‘chips’, siop hufen ia a chaffi fydd yn llenwi’r bwlch mawr ar y maes lle bu’r Honour a’r Thai ac y bydd Tebot Bach yn symud o Stryd y Castell i adeilad Silver Star (Macsen gynt).
Rownd y gongol, erbyn hyn mae siop ‘chips’ Cadnant yn ‘decawê Chinese’ a dyna sydd yn Caffi Cei hefyd gyda’r nos.