
Efallai bod y rhai mwyaf craff ohonoch chi wedi sylwi nad ydy tîm cynta rygbi Caernarfon wedi chwarae yr un gêm gartref y tymor hwn. (Esgus handi pam nad ydy’r tîm wedi cael y cychwyn llwyddiannus arferol!)
Y rheswm am hyn ydy fod y Morfa wedi cael ‘hambỳg’. Mae sustem ddraenio newydd wedi cael ei gosod yno, ar gost o £80,000, ond tydy hi ddim wedi setlo eto. I’r rhai technegol yn eich plith, sustem ddraenio ‘gravel banding’ 15,365 metr o hyd ydy hi (rhyw 10 milltir dan yr hen drefn) a’r metrau hynny i gyd o dan y ddau gae rygbi. Be’n union mae hynny’n ei olygu? Yn y bôn, lot o bres a lot o ddeunydd.
Y deunydd i ddechrau:
- 385 tunnell o bridd wedi’i gloddio.
- 380kg o hadau
- 400kg o wrtaith
- 300 tunnell o gerrig gro mân
- 120 tunnell o dywod a phridd wedi ei ailosod.
Cwmni Bancroft oedd y contractwyr gyda Geraint Huws ar ran y Clwb a’r Cyngor Sir yn cydweithio â nhw.
A’r arian ? Llwyddwyd i godi hwnnw trwy gymorth grantiau Tir a Mor / Undeb Rygbi Cymru a Cist Gwynedd gyda Ieuan Jones ar ran y Clwb Rygbi yn cydlynu hynny.
Mae’r gwaith draenio yma yn benllanw cynllun 7 mlynedd o wella’r caeau a chyfleusterau cyffredinol y Clwb. Gwelliannau angenrheidiol gan fod Caernarfon bellach yn un o’r clybiau hynny sy’n bwydo tîm y rhanbarth – Rygbi Gogledd Cymru 1404.
Bydd rhaglen arall o chwalu 250 tunnell o dywod ynghyd â gwrteithio’r caeau yn rhan o’r cynllun cynnal a chadw, eto dan ofal Geraint Huws (gyda chymorth diflino Myfyr, Lwi ac Alcs). Hwn ydy’r un Geraint Huws a arferai wibio lawr yr asgell i dîm Nant Conwy yn erbyn y Cofis yn wythdegau’r ganrif ddiwethaf! Rheng flaen y Geriatrics o Gymru – Y Gogs – ydy’i safle fo erbyn hyn.
Mae Geraint yn croesi ei fysedd ac yn gobeithio y bydd y tîm cynta yn gallu chwarae ar y prif gae ddydd Sadwrn nesa yn erbyn Pwllheli. (Mae cae yr ail dîm yn barod eisoes – mae’r ieuenctid wedi cael un gêm arno’n barod). Ond cyn hynny fe fydd angen ailfarcio’r cae – “yn syth tro yma”, clywn Keith Parry yn gweiddi!