Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Chwaraewr Ifanc Mwyaf Addawol Y Clwb | Papur Dre

Chwaraewr Ifanc Mwyaf Addawol Y Clwb

3

Cafodd Adam Foulkes, disgybl o Ysgol Yr Hendre, reswm arbennig dros ddathlu llwyddiant diweddar gyda chlwb pêl-fasged cadair olwyn Celts Caernarfon. Cafodd ei enwi’n chwaraewr ifanc mwyaf addawol y clwb am eleni a phwy alwodd heibio i gyflwyno’r tlws iddo, neb llai nag Aled Sion Davies, y Cawr o Gymro o Ben-y-bont ar Ogwr, enillydd y fedal aur a’r efydd yn y gemau Paralympaidd yn Llundain. Mae darllenwyr Papur Dre yn sicr o gofio Aled am ei ddathliadau brwdfrydig ar ôl ennill yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf wrth daflu’r ddisgen 46.14 metr. Roedd y clwb yn hynod falch o groesawu Aled i’w noson wobrwyo ac fel y gwelwch o’r balchder yn y llun mae Adam yn llygadu gwisgo medal aur ei hun rhyw ddydd.