Diolch Dan

pdre23

Mi wyddom yn iawn bod Cymru wedi colli yn erbyn y Crysau Duon yn ddiweddar. Ond roedd na un Cymro o Dre ar ei ennill y diwrnod hwnnw – diolch i Dan Carter, maswr Seland Newydd ac o bosib chwaraewr gorau’r byd. Doedd Carter ddim yn chwarae yn erbyn Cymru – roedd o wedi’i anafu – ond roedd ganddo chydig o docynnau’n sbâr. Ac i ennill y tocynnau hynny fe roddodd Dan dasg i ddarpar gefnogwyr ar ei gyfrif Twitter. ‘Pwy all ddod  â’r  llun gorau o’r Ddraig Goch i mi.’

Cafodd gannoedd yn ymateb a’r enillydd oedd Draig Carwyn Roberts o Lôn Sgubor Wen. Mae gan Carwyn datŵ bach del o’r Ddraig Goch ar ei foch….ddeheuol  wrth reswm ! Ac fe’i anfonwyd at y maswr gan ei ffrind Sam o Goleg UWIC. Yn ôl Dan Carter felly, Draig Carwyn oedd yn deilwng o docynnau i’r gêm rhwng Cymru a’r Crysau Duon. Da iawn Carwyn a diolch Dan!