Yr Institiwt

pdre10

Mae gan Gaernarfon drysor nad yw llawer o bobol yn ymwybodol o’i fodolaeth. Nid yn unig mae adeilad yr Institiwt sydd ar Allt Pafiliwn yn gartref i Gyngor Tref Caernarfon ond mae hefyd yn oriel luniau anhygoel ac yn gofnod o hanes y dref.

Adeiladwyd yr Institiwt yn 1884 fel rhan o draddodiad yr oes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ddiwallu anghenion addysg a diwylliannol y gweithwyr. Richard Owen o Bwllheli oedd y pensaer a fo hefyd oedd yn gyfrifol am adeiladau capel Engedi a chapel Y Maes.

Mae tri llawr i’r adeilad, ac ar y cychwyn roeddent wedi eu rhannu’n Ystafell Ddarllen, Llyfrgell, Ystafell Ddarlith a’r Ystafell Gelf. Bellach maent yn cael eu hadnabod fel Seiont, Peblig a Menai ac yn cynnwys Siambr y Cyngor, a dyma un o adeiladau mwyaf urddasol a gwerthfawr y Dref.
Y peth cyntaf welwch chi wrth gerdded trwy’r drysau crand coch ydi’r grisiau mawreddog yn arwain i’r llawr cyntaf a dwy o’r stafelloedd, sef ‘stafell Seiont a Siambr y Cyngor Tref.

SEIONT

Mae’r llun o Ddeffroad Cymru gan Christopher Williams yn cael ei gydnabod fel yr un mwyaf eiconig yng Nghymru ac mae’n portreadu Gwenllian ferch Owain Glyndŵr yn codi i ryddid o afael draig goch ffyrnig.
Os na sylwch chi ar unrhyw lun arall yn yr Institiwt, peidiwch da chi â methu’r campwaith hwn.
Mae cartŵn o’r arwisgiad yn 1911 gan Christopher Williams i’w weld yn ystafell Peblig, gyda llaw, ac mae’n werth sylwi ar hwnnw hefyd.

Siambr y Cyngor
Adeiladwyd y stafell hon tua 1912  pan estynnwyd yr adeilad wrth ychwanegu’r Siambr a’r baddondy i’r adeilad gwreiddiol. Trowyd y llawr isaf yn Llyfrgell y Sir newydd.

Adeiladwyd Siambr y Cyngor mewn arddull Art Noveau ac mae lluniau o’r holl feiri ar hyd y muriau.

Y Statws Brenhinol a Siarteri a’r Selau

Rhoddwyd y Siartr gyntaf i Gaernarfon gan y brenin Iorwerth 1af yn 1284 ar ôl genedigaeth y tywysog a alwyd yn Dywysog Cymru er bod y rhan fwyaf o’r wlad yn anghytuno’n daer â’r twyll.

Fe ddaeth Caernarfon yn Fwrdeistref Frenhinol yn 1963 ac wrth i’r fwrdeistref ddod i ben, cafodd y dref y teitl Brenhinol yn 1972.

Y Gefeillio

Mae Caernarfon wedi gefeillio gyda thref Landerne yng ngogledd-orllewin Llydaw ers 1993.  Arwyddwyd y Siartr gan y Maer Helen Gwyn a Jean Pierre Thomin, Maer tref Landerne. Mae’r gefeillio’n parhau ac mae ymweliadau bob dwy flynedd.
Mae llawer gormod o drysorau yn yr Institiwt i’w cynnwys yn yr erthygl yma, felly ewch am dro yno, ac os bydd yr ystafelloedd yn rhydd dwi’n sicr bydd y Clerc, Katherine Owen yn fodlon i chi gael gweld y lluniau arbennig sydd yno i’w hedmygu.

Edrychwch am y Gargoil sydd yn llechu tu allan i’r Institiwt.

Emrys Llewelyn

Tachwedd 2012