
Maen nhw’n deud bod nifer o gapeli a thafarndai yn cau bob wythnos dyddiau hyn. Yn ddiddorol iawn mae capel a thŷ tafarn gyferbyn â’i gilydd wedi cau yn Nghaernarfon. Mae’r dafarn ‘Prince of Wales’ wedi cau ers tro byd a mis Medi y llynedd fe gynhaliwyd gwasanaeth dadgysegru Capel Pendref ar Stryd Bangor dan arweiniad y Parch Gwynfor Williams. Roedd cynulleidfa o un-ar-ddeg yn mynychu’r Capel cyn ei gau.
Mae’n debyg y bydd Capel Pendref wedi ei werthu ac mewn dwylo newydd erbyn hyn oherwydd ar y 4ydd o Hydref roedd yn cael ei werthu mewn ocsiwn yn yr ‘Anglesey Arms, Porthaethwy a’r pris gofyn cychwynnol oedd £30,000.
Faint ohonoch sydd wedi pasio heibio i’r Capel dros y blynyddoedd ac heb fod i mewn ynddo? Fe gafodd ffotograffydd PAPUR DRE gyfle i fynd yno a thynnu’r lluniau hyn. Capel yr Annibynwyr ydyw, yn fam Eglwys i Gapel Salem ac os edrychwch uwchben y fynedfa i’r capel fe welwch y dyddiad 1791 sydd yn cofnodi sefydlu’r achos yno. Mae’r cynlluniau cynnar yn 1810 a 1834 yn dangos bod y capel wedi’i adeiladu tu ôl i res o fythynnod yn wynebu Stryd Bangor sydd bellach wedi eu dymchwel. Cafodd yr adeilad presennol ei ailadeiladu a’i ehangu yn 1862 tra cafodd y set fawr a’r pulpud eu hailfodelu yn 1881.
Tybed beth ddaw o’r adeilad yn y dyfodol?