Cartref Newydd i Gwmni Da

Cyn clirio

Bydd Cwmni Da’n symud i adeilad y Goleuad o fewn y dyddiau nesa ‘ma.

Meddai Dylan Huws ar ran Cwmni Da “Rydym yn falch fod y diwedd mewn golwg; mae’r gwaith wedi bod yn gymhleth ac yn anodd ar brydiau ond rydym yn hynod falch o’n cartref newydd”. Dechreuwyd y gwaith ’nôl yn 2009, pan brynodd y cwmni yr adeilad gan Gyngor Gwynedd. “Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Caernarfon am gefnogi ein cais i ddatblygu’r safle; ers cychwyn ar y gwaith mae’r cwmni wedi tyfu i gyflogi 73 o weithwyr ac mae’n holl bwysig ein bod yn adleoli i adeilad sy’n addas i’n gwaith”.

 

Dim Stiwdio

Er bod llawer wedi holi, nid oes stiwdio deledu yn rhan o’r datblygiad. Mae’r adeilad deulawr wedi ei rannu’n swyddfeydd ac yn stafelloedd golygu ac ôl-gynhyrchu ac wedi’i gynllunio’n bwrpasol ar gyfer y gwaith. Mae’r weirio i’w weld yn agored i bawb ac mae gofodau agored yn gymysg â stafelloedd llai ar gyfer cyfarfodydd. Cynlluniwyd y cyfan gan y pensaer Maredudd ab Iestyn, sydd a thŷ trawiadol yn y Clogwyn, Caernarfon, gyda’r gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan y contractwyr R.L. Davies o Fae Colwyn, a hynny ar ôl i’r contractwyr gwreiddiol Linfords fynd i’r wal.

“Mae Maredudd wedi gwneud gwaith rhyfeddol o addasu’r hen adeilad, gan gadw cymeriad y gwreiddiol a’i addasu mewn ffordd fodern ar gyfer y diwydiant teledu. Cawsom ‘chydig o ‘set-back’ pan aeth yr adeiladwyr gwreiddiol yn fethdalwyr, ac roedd rhaid rhoi stop ar y gwaith am gyfnod. Ond mae R.L. Davies wedi rhagori yn eu gwaith ac mae’r gofal a’r gorffeniad i’w weld i bawb”.

Lle i’r hen yn yr adeilad newydd

Ers y cychwyn roedd Cwmni Da yn awyddus i fanteisio i’r eithaf ar nodweddion yr adeilad ac i geisio adlewyrchu natur ddiwydiannol y safle yn y dylunio. Mae’r ffenestri wedi eu dylunio fel y gwreiddiol ac mae mortar calch wedi ei osod o’r newydd ar y tu allan. Bydd yr hen olwynion oedd yn gyrru gweisg gwreiddiol gwasg y Goleuad yn cael eu defnyddio tu allan i’r adeilad ac mae sawl nodwedd arall amlwg. “Rydym ni wedi cofnodi popeth gyda chamera cyn cychwyn ar y gwaith o gasglu pob math o bethau diddorol a byddwn yn trio defnyddio rhain yn yr adeilad,” meddai Dylan. Bydd blociau argraffu, a darnau o bosteri a hen bapurau newydd yn rhan o orffeniad yr adeilad ac yn eistedd ochor yn ochor â pheiriannau golygu a’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.

 

“Bydd symud i’n cartref newydd yn Doc Fictoria yn hwb i ni fel cwmni ac i’r dref gobeithio. Mae’r cwmni ar hyn o bryd ar ddau safle yng Nghaernarfon a’r Felinheli. Mae canoli’r diwydiannau creadigol yn y rhan yma o Gaernarfon yn holl bwysig ac rydym yn edrych ymlaen i barhau â’n gwaith mewn canolfan bwrpasol.”

 

Argraff Newydd

 

Un sy’n nabod yr adeilad yn well na neb ydi Dafydd Thomas a ddaeth i weithio yno’n syth o’r ysgol ‘Higher Grade’ neu Segontiwm yn 1957. Cafodd gyfle i weld yr adeilad am y tro cyntaf ers iddo adael yn 1991 ac roedd yn ei elfen yn hel atgofion a gweld y lle ar ei newydd wedd.

“Mae hyn yn ffantastic,” meddai Dafydd, “Dwi mor falch fod y lle’n cael ei ddefnyddio i’r un math o waith, a bod o dal yma a heb ei chwalu. Mae hwn yn un o adeiladau hynaf y dre ac mae’n grêt gweld ei fod o’n dal yn lle busnes hefo pobol yn gweithio yma”. Ar ei anterth roedd dros ugain yn gweithio yn yr argraffdy yn printio cyhoeddiadau fel y Goleuad, Trysorfa’r Plant, Trysorfa Fawr, Treasury a chyhoeddiadau Methodistaidd amrywiol.

 

“Ddois i yma yn syth o’r ysgol a chael chwe blynedd o brentisiaeth. Oedd o’n waith caled ond oedd ‘na lot o hwyl i gael hefyd. Roedd ‘na lot o dynnu coes, a dwi’n cofio fod un llawr yn cael ei ddefnyddio fel lle i chwarae ffwtbol – Wembley oedda ni’n ei alw fo. Roedd yr ardal yma fel stad ddiwydiannol, iard lo, terminal olew a’r stesion wrth gwrs, lot o bobol a digon yn mynd ‘mlaen”. Dywedodd Dylan Huws, “Roedd yn bleser cael dangos y lle a’r gwaith i Dafydd a dwi’n falch ei fod yn gweld fod cysylltiad gyda gwaith cyfryngau newydd a’r hen argraffdy, bydd Dafydd yn ei ôl fel gwestai ar ddiwrnod yr agor swyddogol a dwi’n siŵr y bydd ganddo straeon i’w rhannu hefo pawb bryd hynny”.