Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Hen Lyfryn Taith o Amgylch y Dref | Papur Dre

Hen Lyfryn Taith o Amgylch y Dref

Battle-of-Vinegar-Hill-enhanced

Yn ddiweddar deuthum ar draws llyfryn 40 tudalen wedi cael ei rwymo ac un gair yn deitl iddo, sef ‘Caernarfon’ er bod y cynnwys yn Saesneg. Nid oedd nac enw awdur na chyhoeddwr arno. Fodd bynnag, mae’n rhoi braslun o hanes cynnar y dref ers y dyddiau cyn i’r Rhufeiniaid ddod yma yn y flwyddyn 78 O.C. hyd at rywbryd yn y 1960au, oherwydd soniai am ddau ddigwyddiad, sef dymchwel y Pafiliwn yn 1962 a dymchwel y Guild Hall yn 1963. Wedi trafod yr hen hanes yn y rhan gyntaf o’r llyfr, mae’r awdur yn mynd ymlaen i roi peth o hanes strydoedd yr hen dref, hen adeiladau o bwys fel “Plas Mawr” yn Stryd y Plas, yr adeilad hynaf yn y dref cyn iddo gael ei ddymchwel yn 1832 ac adeiladu’r Farchnad ar y safle. Mae’r adeilad eto yn cael ei atgyweirio eleni a bwriedir ceisio denu ymwelwyr yno i weld y selerydd hanesyddol yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer.

Mae un cyfeiriad sy’n gwbl anghywir ar dudalen 38 o’r llyfryn, sef o dan y pennawd Crown Street. Dywedir i’r stryd honno arwain i lawr at Tyrkey Shore a Ffordd Balaclava, sef cyfeiriad at Ryfel y Creimea sydd yn hollol gywir, wrth gwrs. Ond eir ymlaen i sôn am droi i’r dde am vinegar Hill a chynigir dau esboniad am darddiad yr enw. Un ydyw bod finegr yn cael ei gynhyrchu yn rhywle ar yr allt a’r llall yw bod siop yno yn gwerthu finegr. Mae’n rhaid na wnaeth yr awdur waith ymchwil trylwyr neu fe fyddai yn gwybod bod Caernarfon yn Dref Milisia ers o leiaf y 18fed ganrif gyda milwyr rhan amser yn ymarfer am flynyddoedd yn Cae Tolpis ar Ffordd Bethel ac i’r Barics ar Ffordd Llanberis gael ei adeiladu yn ystod Rhyfel y Creimea. Enwyd vinegar Hill ar ôl brwydr waedlyd yn Swydd Wexford yn Iwerddon ar Fehefin 21, 1798, pryd ymosododd Byddin Prydain gyda 18,000 o filwyr profiadol ar 20,000 o wrthryfelwyr Gwyddelig gyda phrinder arfau oddieithr picellau. Bu’r milwyr yn tanio’n ddi-baid ar y gwrthryfelwyr gyda’u magnelau mawrion cyn ymosod. Ceir sawl amcangyfrif parthed y colledion gan haneswyr, ond credir iddynt fod yn gytûn ar 100 o filwyr, tra rhoir y nifer o wrthryfelwyr yn uwch fyth, sef rhwng 500 a 1,000 gan un, tra dywed un arall ei bod yn 1200.

T Meirion Hughes