Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Pedwar Degawd ar yr Iard – Anti Glenys yn Gadael | Papur Dre

Pedwar Degawd ar yr Iard – Anti Glenys yn Gadael

Ar ôl 39 mlynedd o ofalu am blant Ysgol yr Hendre amser chwarae, mae Glenys Parry wedi penderfynu ymddeol o’i swydd fel Goruchwyliwr Buarth. Mi orffennodd hi’n swyddogol cyn y Nadolig ond fe’i gwahoddwyd nôl y tymor hwn i wasanaeth arbennig er mwyn diolch iddi am ei gofal dros sawl cenhedlaeth. Dywedodd Anti Glenys,

“Hoffwn ddymuno pob hapusrwydd i bawb yn yr adeilad newydd a diolch i’r plant a’r staff am flynyddoedd lawer o atgofion hapus iawn.”

Wrth ddiolch iddi ar ran plant a theuluoedd yr Hendre dywedodd y pennaeth,

“Bu’n bleser cydweithio ag Anti Glenys ar hyd y blynyddoedd ac rydym yn dymuno’n dda iddi ar ei hymddeoliad.”

Fe ddechreuodd hi weithio yng nghegin hen ysgol yr Hendre 39 mlynedd yn ôl ond ymhen dwy flynedd, fe symudodd i weithio ar yr iard a dyna lle buodd hi wedyn.

Pan ofynnwyd iddi oedd hi’n meddwl bod plant wedi newid dros bedwar degawd, ei hateb hi oedd:

“Plant ydi plant.  Mae’r un gemau’n mynd a dod, sgipio, hŵla hŵps a chwarae efo pêl.” 

Y newid mawr wrth gwrs yw bod Ysgol yr Hendre wedi symud i safle newydd y llynedd ac mae’n braf iawn yno, yn ôl Glenys: “Neis, modern a mawr”. Wedi dweud hynny, mae’n chwith ar ôl yr hen gae, meddai hi, achos dydi plant ddim ond yn cael chwarae efo pêl spwnj ar yr iard yn yr ysgol newydd. Un peth arall roedd hi’n gweld ei eisiau ar ôl symud oedd bod rhywun yn arfer gweld pobl yn pasio’r hen ysgol ac yn gallu codi llaw arnyn nhw.

Y diwrnodau gwaethaf oedd pan oedd hi’n bwrw a phawb yn gorfod aros i mewn yn y dosbarth. Roedd awr i’w gweld yn hir iawn adeg honno ond y peth gorau oedd bod efo’r plant a chael cinio yn yr ysgol wedyn. “Mi oeddan nhw’n watsiad ar `fy ôl i’n dda”, meddai Glenys.

Er na fydd hi’n gofalu am blant yr Hendre bellach, fydd ei gofal am blant yn ddim llai. Mae’n hoff iawn o weu dillad plant i’w gwerthu mewn siopau elusen a dyna fydd yn llenwi ei horiau o hyn ymlaen. Hynny a theithio dipyn ar y bysus!