
Mae gan faswr tîm rygbi Dre nerfau go gadarn!
Yn erbyn Pwllheli ar y Morfa (yn rownd 8 ola Cwpan y Gogledd) mi enillodd Kelvin Morris y gem i’r Cofis gyda’r gic olaf un. Roedd Pwllheli ar y blaen o ddau bwynt pan gafodd y Cofis gic gosb anodd, ar ochr dde’r cae. Roedd yn rhaid mynd amdani. A throsodd yr aeth hi. Buddugoliaeth o 20 pwynt i 19.
Taith i Fethesda ar gyfer y rownd gyn-derfynol, felly, a phawb yn gallu anghofio bod Kelvin wedi methu sawl cic cyn hynny! Mae hyn yn dechrau mynd yn dipyn o arferiad gan Kelvin – nid methu ond llwyddo gyda chiciau olaf gêm. Gwnaeth yr union gamp wythnos yn gynharach yn erbyn Dolgellau. Trosodd gais gyda chic ola’r gêm i guro gwŷr Meirion o 24-22.