Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
‘STITCH AND BITCH’! | Papur Dre

‘STITCH AND BITCH’!

gweu 1

Madonna, Julia Roberts a Chriw Stitch and Bitch Caernarfon

Mae’n siŵr na fydda’r rhan fwyaf ohonoch chi wedi cysylltu gweu efo rhai o fawrion mwyaf trendi a glamorous Hollywood. Mae’n siŵr y bydda rhai ohonoch chi (fi yn eich plith) yn cysylltu gweu a gwnïo efo neiniau, jympars pigog neu oriau o uffern pur mewn gwersi gweu yn yr ysgol? Wel… mae angen i ni feddwl eto.

Mae ‘na gynnydd aruthrol wedi bod yn y nifer o bobl sydd yn gweu dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny’n cynnwys pobl ifanc. Mi oeddwn i wedi clywed si am ryw glwb o’r enw ‘Stitch and Bitch’ oedd yn cyfarfod yng Nghaernarfon bob yn ail nos Iau felly mi es draw yno i fusnesu ac i holi mwy am y grefft ’ma sydd yn dod yn fwy a mwy poblogaidd a ffasiynol bob dydd.

Mae’r criw, o bob oed, yn cyfarfod yn Stryd y Plas am 7:00 bob yn ail nos Iau ers 2008 ac maen nhw’n gweu pob mathau o bethau dros baned a sgwrs. Maen nhw’n gweu dillad iddyn nhw eu hunain, dillad i fabis, capiau, sgarffiau a blancedi. Meddai un aelod; “Mae cymaint o ddewis o batrymau ac edafedd ar gael dyddiau yma, mi fydda rhywun yn medru gwneud unrhyw ddilledyn… a dim jest dillad chwaith ond clustogau, fframiau, gemwaith, lampshades.”

Mi ofynnais i aelod ieuenga’r criw sydd yn 15 oed pam ei bod yn gweu; “Mae’n cael ei weld fel rhywbeth hen ffasiwn ond ti’n medru gwneud unrhyw ddilledyn ti eisiau, does dim rhaid i chdi fynd i siop a mynd yn rhwystredig am nad ydi be ti isio ar gael yn y lliw iawn a’r maint iawn.” Ond mae’n rhaid fod gweu yn llawer mwy o drafferth na mynd i siop? Yn ôl y criw, nac ydi, mae gweu’n hawdd ac mi fydda unrhyw un yn medru troi ei law ato. Mae hefyd yn ffordd o ymlacio ac mae rhywun yn cael teimlad o falchder ar ôl gorffen rhywbeth.

Yn ogystal â gweu dillad ac anrhegion personol mae’r criw hefyd yn gwneud gwaith elusennol fel gweu blancedi ar gyfer cartrefi henoed a gweu festiau ar gyfer babanod yn Affrica sy’n dioddef o Aids. Yr ymgyrch y maen nhw’n gweithio arni ar hyn o bryd ydi Heartsease. Mae cwmni Kids Company yn gweithio gyda 36,000 o blant a phobl ifanc sy’n dioddef o drais ac esgeulustod. Maen nhw’n gofyn am fagiau siap calon wedi eu gweu er mwyn iddynt gael eu defnyddio mewn sesiynau therapi i gadw negeseuon o obaith a thrysorau bychain.

Yn bendant, mae gweu wedi newid yn llwyr dros y blynyddoedd diwethaf ac mae criw ‘Stitch and Bitch’ Caernarfon yn dyst i hynny. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cychwyn gweu, galwch mewn i siop haberdashery YLP yn Stryd y Plas am gyngor. Bydd gweithdai’n cael eu cynnal yno yn fuan. Croeso i bawb… o bob oed, yn ferched ac yn ddynion!