Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Caneris yn Bencampwyr | Papur Dre

Caneris yn Bencampwyr

fflag

Mae tîm pêl-droed Caernarfon wedi cael tymor i’w gofio. Ar ôl ennill Tlws FA Cymru a Chwpan Cookson fe sicrhawyd dyrchafiad i Gynghrair y Cymru Alliance wrth guro Pwllheli o 3-1 ar yr Oval. Y tymor nesa timau fel Derwyddon Cefn, Porthmadog, Y Fflint, Caersws a Chaergybi fydd gwrthwynebwyr y Caneris. Un o gefnogwyr mwyaf selog y tîm ydyJohn Watkins. Mae o wedi gweld pob un o gemau Dre y tymor yma – gartref ac oddi cartref – ac yn rhyfeddu at lwyddiant Lee Dixon, y rheolwr, a’i dîm “Pan ti’n meddwl bod y clwb ar y dibyn dair blynedd yn ôl, o fewn dim o fynd i’r wal, ma hyn yn anhygoel,” meddai John. “Ac o gofio’r cefndir yna, mae’r ffaith i ni ennill tlws cenedlaethol y Gymdeithas Bêl-droed a hynny o 6-0 yn erbyn Kilvey Fords o Abertawe yn dipyn o gamp. O’dd y ffeinal honno yn y Drenewydd yn sbeshal iawn.” Ond ddim cweit cystal ag ennill y bencampwriaeth!