
Does na’m dwywaith fod Caernarfon yn un o’r trefi mwyaf poblogaidd yng Nghymru ymysg twristiaid o bob cwr o’r byd. Ond faint o dwristiaid sydd yn cael gweld y gwir Gaernarfon?
Wel, amcan un cwmni teithio o America ydi gwneud yn siŵr fod ymwelwyr yn cael blas o fywyd bob dydd pob ardal y maen nhw’n ymweld â hi a “do as the locals do”. Maent yn teithio ledled y Deyrnas Unedig ac yn ystod ymweliad i Gaernarfon mae eu hymwelwyr yn cael crwydro’r dref, cael bwyta yng nghartrefi rhai o’r trigolion lleol a chael eistedd i mewn ar ymarferion Côr Caernarfon.
Bron bob nos fawrth tros yr haf, yn Stiwdio 2, Galeri, mae tua 30 o ymwelwyr yn gwrando ar Delyth Humphreys yn rhoi Côr Caernarfon trwy eu pethau.
Yn ôl Maryann Brown o Minnesota roedd eistedd yn yr ymarfer fel eistedd mewn cyngerdd y bydda hi wedi talu ffortiwn am gael ei weld. “Mae corau Meibion yn ffenomen Gymreig” meddai “a’r ymarfer heno yw uchafbwynt y daith hyd yma”.
Hanner ffordd trwy’r ymarfer mae toriad ac mae’r ymwelwyr yn falch o’r cyfle i sgwrsio a chymdeithasu gydag aelodau’r côr. “Mae’n wych cael cymdeithasu gyda phobl yr ardal a dysgu am y diwylliant Cymreig” meddai Maryann.
Dau arall sydd yn amlwg yn mwynhau’r ymarferion yw Mr a Mrs Horseman, cwpwl o Warwickshire sydd yn dod i ymarfer bob blwyddyn yn ystod eu hymweliad i Ogledd Cymru.
“Pleser yw dangos diwylliant Cymru i ymwelwyr o bob rhan o’r byd,” meddai Bryn Griffith, Cadeirydd y côr. “A thrwy brynu ein CDs, dychwelant adref ag atgofion melys o’u harhosiad yn nhre’r Cofis.”
Mae’r côr yn ymarfer bob nos Fawrth am 7:30 ac mae’r drysau ar agor i bawb…boed yn ymwelydd neu’n gofi!