Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Y DRE O DOP Y TŴR | Papur Dre

Y DRE O DOP Y TŴR

Y dre o ben y twr

Os cofiwch chi, roedd stori yn PAPUR DRE mis Chwefror am y gwyntoedd mawr ddechrau’r flwyddyn yn chwythu’r groes a charreg fawr oddi ar dŵr Eglwys Gatholig Dewi Sant a Santes Helen. Yn ffodus, fe laniodd yng ngardd yr Eglwys heb niwed i neb.

Yna, ychydig wythnosau yn ôl, gwelwyd sgaffold ar ben y tŵr a dynion wrthi’n gosod y groes yn ei hôl . Drwy gydweithrediad parod iawn Berwyn Owen, sydd yn byw dros ffordd i’r Eglwys, gofynnwyd i’r Cwmni oedd yn gyfrifol am y gwaith dynnu lluniau o’r Dre o ben y tŵr ar gyfer PAPUR DRE a dyma’r canlyniad – y dre yn ei holl ogoniant! Mae rhagor o luniau ar y wefan (papurdre.net). Diolch i Grahame Stone o Gwmni Stone Technical Services Ltd amdanynt ac i Berwyn am drefnu’r cyfan.