
Mae GISDA wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Grant o £50,000 gan Miliynau’r Bobl ar gyfer y prosiect ‘Caffi Ni’. Maent yn galw am gefnogaeth pobl o Gaernarfon, Gwynedd a thu hwnt i Ogledd Cymru i bleidleisio i gefnogi eu prosiect Dydd Mawrth 26ain o Dachwedd.
Os yn llwyddiannus bydd yr elusen sydd yn cefnogi pobl ifanc, GISDA, yn agor caffi anffurfiol er mwyn darparu profiad gwaith, sgiliau newydd, hyder a’r cymhelliad i fyw bywydau annibynnol llwyddiannus i bobl ifanc. Bydd y caffi’n llawn cyfarpar i greu cinio a lluniaeth ysgafn a bydd pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau coginio, dechrau eu busnes, hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch.
Mae GISDA yn galw am eich cefnogaeth i bleidleisio ar gyfer y prosiect yma. Y Loteri Fawr sydd yn ariannu Miliynau’r Bobl, ond yn wahanol i grantiau eraill y cyhoedd, drwy bleidlais, sydd yn dewis y prosiectau sydd yn cael ei ariannu.
Dywed Sian Tomos, prif weithredwr GISDA:
“Rydym ni yn galw ar bawb i bleidleisio ar gyfer ein prosiect “Caffi Ni” Dydd Mawrth. Bydd yn siawns i bobl ifanc gychwyn a rhedeg menter gymdeithasol, gan roi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau ac i dderbyn achrediadau mewn amrywiol feysydd”.
Yn ystod yr wythnos mae criw o bobl ifanc GISDA wedi cael y cyfle i fod yn ffilmio gyda staff Newyddion ITV. Roeddent yn ffilmio hysbyseb yn galw ar bobl i bledleiso ar gyfer eu prosiect i Miliynau’r Bobl, bydd yr hysbyseb yn cael ei dangos fel eitem ar Newyddion 6 dydd Mawrth.
Ffonio yw’r unig ffordd i bledleisio. Bydd y rhif ffôn ar gael am 9yb dydd Mawrth 26ain o Dachwedd ar safle we Miliynau’r Bobl a phapur y Daily Mirror, bydd y llinellau ar agor hyd hanner nos.