
COFIS BACH YN CANU OPERA!
Daeth artistiaid o Opera Cenedlaethol Cymru i berfformio ym mharti Nadolig Cofis Bach yn y Noddfa yn ddiweddar, a chafwyd gwledd o ganu , o ganeuon gwerin Cymraeg i Gilbert a Sullivan! Cafwyd perfformiad arbennig o’r ddeuawd adnabyddus Hywel a Blodwen gan Gareth Lloyd, tenor yn wreiddiol o Abergele a Mererid Mair o Noddfa. Cafodd rhai o’r plant gyfle i ganu efo nhw hefyd.Senedd yn croesawu Cofis Bach a Chofis Mawr! Croesawyd pobl ifanc o brosiect celfyddydol Cofis Bach/ Cofis Mawr i’r Senedd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Bu’r criw ifanc yn creu ac yn cynhyrchu ffilmiau byrion yn gynharach eleni mewn partneriaeth â phrosiect Dewis Cyntaf, ac fe gynhaliwyd digwyddiad swyddogol yn y Senedd i lawnsio’r ffilmiau. Daeth Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad Arfon i’r digwyddiad a llongyfarch y bobl ifanc ar eu gwaith gwych. Roedd ymateb pobl i’r ffilmiau Sgwtyr Sombis Glas o Uffern/Sgubsa Sociopath yn ardderchog.Dywed Sioned Huws, rheolydd prosiect Cofis Bach : “Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy, dangoswyd y ffilmiau ar sgrîn fawr ac roedd yn ddigwyddiad cyffrous i ni gyd”. Meddai Rachel Longshaw mam Josh a Daniel a fu’n rhan o‘r criw a fu’n creu’r ffilm : “Roedd yn brofiad gwych cael y cyfle i weld y ffilm wedi ei orffen, doedd y plant ddim wedi bod i’r Senedd o’r blaen ac rôn i mor hapus bod y ffilmiau wedi cael y sylw yma. Wrth gwrs fel mam roeddwn yn falch iawn o weld beth oedd y plant wedi ei gyflawni drwy brosiect Cofis Bach”.
Am fwy o fanylion am Cofis Bach/Cofis Mawr: 07879 202547.