ae bywyd fodins yn Dre, fel yng ngweddill y byd gorllewinol, wedi newid cymaint o fewn cenhedlaeth neu ddwy. Nid yn rhy bell yn ôl peth rhyfedd iawn yn Dre fasa gweld fodan [oni bai bod hi’n syrfio] mewn bar tŷ tafarn. Y lownj oedd y lle i ferched, neu un o’r snygs bach na sydd wedi hen ddiflannu. Dach chi’n eu cofio nhw – y llefydd tywyll perffaith ’na i brynu diod i wraig rhywun arall A beth am fodins yn yfed peintiau? Byth, nefar! Mi fasa ambell un ers talwm yn sbio i lawr ei drwyn ar ferched oedd allan yn y pybs heb fod ar fraich dyn. Daeth tro ar fyd. Heddiw mae Dre yn croesawu merched i wneud fel maen nhw isho ar noson allan – cerddwch rownd Dre ar ddydd Sul unrhyw Ŵyl Banc i weld y dystiolaeth! Ac arhoswch tan Dydd Gwener Du, jysd cyn y Dolig, i weld fodins yn mwynhau go iawn! Mae o’n newid i’w groesawu ddeudwn i. Fel ym myd gwleidyddiaeth. Mae merched wedi cymryd rhan bwysig ym mholitics C’narfon ers y saithdegau pan oedd Megan Bonner Pritchard yn Faer. A tydy cael merched yn gynghorwyr yn ddim byd newydd yn unman erbyn hyn. Mi ddylai Dre fod yn falch fod secsism wedi marw yma, yn naturiol a di-lol.
Flynyddoedd yn ôl roedd yfed yn hwyr, y loc-in, yn beth mawr. Roedd o’n anghyfreithlon ac felly yn fwy melys rywsut! Roedd y lyshiwrs go iawn yn gwybod yn union lle i fynd i aros i’r drysau eu cloi nhw i mewn. Mae’n debyg bod llawer o dafarndai a chlybiau yn arfer gwneud y rhan fwyaf o’u helw yn yr oriau mân. Wedyn bu newid y gyfraith a’r Majestic yn denu yr yfwyr hwyr ac yn hudo’r ieuenctid i yfed tan oriau bach y bora. Fuodd nos Sad byth yr un peth yn Dre ar ôl hynny. Mi losgwyd y Majest, fodd bynnag, ac agorodd y Parasocs yn ei le (newidiodd i Cofi Roc a K2 wedyn). Yma yr heidiau’r ifanc (ac ambell un ddim mor ifanc) ar benwythnosau fel oedd y pybs yn cau. Ond newidiodd y gyfraith eto gan adael i dafarndai agor yn hwyr hefyd. O ganlyniad roedd peryg i fanteision y clybiau nos ddiflannu. Y canlyniad? Cofi Roc a K2 rŵan ar werth a nos Sad yn Dre yn newid eto. Y cylch yn gyflawn a diwedd y nos yw’r dafarn unwaith eto. Mi fydd cadw Cofi Roc/K 2 ar agor fel y mae o rŵan yn joban galed beryg. Be ddaw ohonyn nhw (a’r Harp)….Starbucks ? Costa? Gawn ni weld, ia ? Mae Dre wedi, ac yn, newid!