
Un o aelodau mwyaf anturus Merched y Wawr yng Nghaernarfon yw Eiddwen
Roberts sy’n byw yn Twtil. Treuliodd Eiddwen a’i theulu 8 mlynedd yn byw ac
yn gweithio yn Zambia rhwng 1965 a 1973. Yng nghyfarfod mis Ionawr,
clywodd y gangen am daith ddiweddaraf Eiddwen i Zambia pan gafodd ei
gwahodd i weld drosti ei hun y gwaith y mae’r elusen World Vision yn ei wneud
yn y wlad.
Mae Eiddwen wedi bod yn cefnogi World Vision ers ei sefydlu yn 1983. Felly 30
mlynedd yn ddiweddarach, yn 2013, cafodd gyfle, gyda chwech o noddwyr
eraill, i ymweld â’r wlad. Pwysleisiodd Eiddwen fod yr holl arian a gesglir trwy
noddi plentyn unigol yn mynd at ddatblygiadau yn y gymuned mewn gwahanol
wledydd. Roedd Eiddwen wedi bod yn cysylltu gydag un bachgen arbennig o
Zambia, sef Okeleny Hamilimo, a gwelir o’r llun fod perthynas arbennig rhwng
y ddau. Fel gwerthfawrogiad o’i chefnogaeth ar draws y blynyddoedd
cyflwynwyd basged a stôl arbennig i Eiddwen gan y pentrefwyr.
Roeddem fel cangen yn ddiolchgar iawn i Eiddwen am ein hatgoffa o’n sefyllfa
gyfforddus ni o gymharu â llawer gwlad a hefyd yn falch ei bod wedi bod yn
fodlon rhoi o’i hamser i helpu eraill mewn rhan ddifreintiedig o’r byd.