
Noson Wobrwyo Gerddi 2012- Dymuna’r Cyngor ddiolch unwaith eto i Fron Goch am noddi y gystadleuaeth ac i’r beirniad am ei waith caled.
Gellir gweld gweddill lluniau’r noson wobrwyo yma.
Noson Wobrwyo Gerddi 2012- Dymuna’r Cyngor ddiolch unwaith eto i Fron Goch am noddi y gystadleuaeth ac i’r beirniad am ei waith caled.
Gellir gweld gweddill lluniau’r noson wobrwyo yma.
Ers iddo gael ei sefydlu yn 1997, mae Cwmni Da wedi datblygu yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Cymru. Mae cynnyrch cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, digwyddiadau a chwaraeon. Yn gynhyrchydd o bwys i S4C, mae Cwmni Da hefyd yn creu cynnwys ar gyfer y BBC, C4 ac yn llwyddiannus yn y farchnad gyd-gynhyrchu ryngwladol.
Rydym ni’n gwmni cyfieithu sydd yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
Cyfieithu testun, cyfieithu ar y pryd, lleoleiddio gwefannau a meddalwedd, gwasanaethau iaith a cyfieithu Saesneg/Cymraeg.
Mae cyfieithwyr Cymen gyda’r mwyaf profiadol a safonol yng Nghymru. Mae gennym brofiad helaeth o ddarparu cyfieithiadau o waith ffurfiol (megis datganiadau deddfwriaethol a chyfreithiol), a thestun lled-ffurfiol (megis datganiadau i’r wasg a chylchlythyrau) ac mae gennym hefyd arbenigedd mewn cyfieithu gwaith creadigol.
Gallwn ymateb i geisiadau mawr a bach – a hynny ar fyr rybudd yn aml. Os oes angen gwaith wedi’i gyfieithu arnoch ar frys garw, gwnawn ni ein gorau glas i ymateb i’ch anghenion.
Ar gyfer gweld fideo o’r cwmni, cliciwch yma.
Babi, ti’sio stori? Sesiwn Stori i fabanod hyd at dair oed a’u rhieni neu ofalwyr dan ofal Mari Gwilym. Nod y sesiynau yw i annog hwyl a chyd-chwarae rhwng baban a rhiant/gofalwr. I hybu cyd-wrando, bydd Mari’n defnyddio hwiangerddi a rhigymau yn ei sesiynau stori, ac yna’n gwau ei straeon syml ei hun i mewn i’r gwahanol themâu. Bydd y themâu’n deillio o ‘Delynegion y Misoedd’ gan Eifion Wyn.
8.1.13 am 10.30
Estyneto – Penderfynodd criw ‘Ymestyn ac Ymlacio’ edrych o’r newydd ar ei hunaniaeth fel grŵp… Dyma eni Estyneto fel enw ar sesiynnau symud i gerddoriaeth o dan arweiniad ysbrydoledig y dawnsiwr, coreograffydd a’r tiwtor dawns Cai Tomos.
12.1.13 am 14.00
Bwyd Lên Santes Dwynwen – Pryd o fwyd 3 chwrs… Bydd y beirdd Twm Morys a Geraint Lövgreen yn eich tywys fesul cwrs gyda cherddi dethol, ambell anecdot a chân.
25.1.13 am 19.30