Mae GISDA yn wasanaeth sydd yn cynnig cymorth ar gyfer pobl ifanc digartref. Cawn glywed gan Sian Elen Tomos, sef Prif Weithredwr GISDA am hanes y gwasanaeth a’r hyn y maen nhw’n ei gynnig.
Hyd at £50,000 i’w ennill i bobl ifanc Gwynedd
Mae GISDA wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Grant o £50,000 gan Miliynau’r Bobl ar gyfer y prosiect ‘Caffi Ni’. Maent yn galw am gefnogaeth pobl o Gaernarfon, Gwynedd a thu hwnt i Ogledd Cymru i bleidleisio i gefnogi eu prosiect Dydd Mawrth 26ain o Dachwedd. Mwy →