
Cynhaliwyd noson wobrwyo’r ysgol yn ddiweddar i gydnabod llwyddiant rhai o ddisgyblion mwyaf addawol yr ysgol. Cyflwynwyd gwobrau i ddisgyblion a oedd wedi ymdrechu’n sylweddol a dangos brwdfrydedd nodedig tuag at bwnc penodol neu ar draws y pynciau i gyd. Croesawyd y disgyblion i’r llwyfan gan ŵr gwâdd y noson, sef aelod seneddol Conwy, Guto Bebb, un o gynddisgyblion yr ysgol. Dywedodd Mr Bebb:”Rydw i’n gobeithio, wrth ddathlu llwyddiant disgyblion Syr Hugh heno, y byddant yn mynd yn eu blaenau i wneud yn dda. Mae gan bob disgybl y cyfle i wneud gwahaniaeth”.
Ymysg y disgyblion a gafodd wobrau oedd Prif Fachgen a Phrif Eneth y flwyddyn academaidd hon, sef Owain Fenn-Jones a Lowri Ceiriog. Cyflwynir un wobr arbennig gan y Prifathro i ddisgyblion sydd wedi disgleirio. Eleni rhoddwyd y wobr i Ceri Lois Owen ac Erin Môn Davies, y ddwy o flwyddyn deuddeg, am eu hymdrech, eu hymddygiad a’u gwaith caled drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol. I rai disgyblion, roedd y noson yn un prysur iawn, gan eu bod wedi cael eu dewis i dderbyn amryw o wobrau. Ymysg y disgyblion yma oedd Mari Davies o Flwyddyn 10 a gafodd gyfanswm syfrdanol o chwe gwobr yn ystod y noson. Cai Gruffydd gafodd y wobr am y marciau uchaf ar lefel TGAU eleni gyda 8A* a 4A, a hefyd ennillodd y gwobrau am Gymraeg, Gwyddoniaeth a Cherdd. Erin Fflur Williams o Flwyddyn Deuddeg gafodd y wobr am ferch y flwyddyn eleni – y trydydd tro iddi ennill gwobr a’r ail dro iddi ennill y wobr hon yn benodol. Roedd Erin yn falch iawn o’i llwyddiant.
Yr oedd hi’n noson i ymfalchïo yn llwyddiant y disgyblion ac yn noson arbennig i Dïm y Flwyddyn, sef y Parti Cerdd Dant. Yr oedd aelodau’r parti yn cael eu llongyfarch am eu gwaith caled a’u hymdrech yn dilyn eu paratroadau tuag at yr Eisteddfod leol ac am gael yr ail wobr ar y brif lwyfan yng Nglynllifon eleni. Roedd rhai o aelodau ieuengaf y parti yn gwethfawrogi y wobr. Dywedodd Sara Elin, Malan Jones, Dewi Morgan ac Osian Jones: “Roedd hi’n brofiad grêt cystadlu mewn Eisteddfod leol, ac rydym ni eisiau diolch i Mrs Beti Rhys a Miss Delyth Huws am ein hyfforddi!”