Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Noson 4 a 6 | Papur Dre

Noson 4 a 6

pdre20

Hwre, mae nosweithiau 4 a 6 wedi ailddechrau yng Nghlwb Canol Dre! Os nad ydach chi wedi profi noson 4 a 6 eto, lle dach chi ’di bod?? Mi gawson ni ddwy noson ddifyr a gwahanol ym mis Medi, y gyntaf yng nghwmni’r bardd Karen Owen a’r grwpiau Plu a Siddi – dau grŵp gwreiddiol ac arbennig iawn.

Am yr ail noson bu’r prifardd newydd Dylan Iorwerth yn cyflwyno’i waith ac yn sgwrsio efo Sian Gwenllian, a daeth Chris Jones o Gwm y Glo i ganu baledi traddodiadol o bedair gwlad Prydain. Ac erbyn i’r papur yma weld golau dydd bydd Rhys Iorwerth, Myrddin ap Dafydd a Hywel Pitts wedi bod yn ein diddanu hefyd.

Be sydd i ddod nesa te? Wel, cadwch nos Wener 19 Hydref yn rhydd i groesawu’r brodyr o Lanrug, Ynyr ac Eurig Roberts yn ôl i Gaernarfon. Bydd, mi fydd Brigyn efo ni, a Hefin Huws yn gwmni iddyn nhw i ganu ambell i glasur. Ac mi gawn ni ddos o farddoniaeth ddigri a chrafog gan Iwan Rhys, cyn enillydd y Stomp Farddol yn y Steddod Genedlaethol, sy’n byw bellach yn Dre. Wedyn nos Iau 1 Tachwedd noson o ddiwylliant unigryw ardal Stiniog ydi’r arlwy, efo Twmffat a Dewi Prysor. Dau ddyddiad i’w nodi felly a dwy noson sy’n addo digon o hwyl i bawb. Croeso i bawb, yn hen ac ifanc! Mynediad £5 ar y drws.