Mae tudalen Caernarfon Creadigol wedi bod yn boblogaidd iawn, gyda llawer yn ymweld â hi bob mis, ac i fyfyrwyr Coleg Menai y mae’r diolch am hyn. Braf oedd clywed, felly, bod darn o waith sydd wedi’i greu ar gyfer Caernarfon Creadigol wedi cael ei roi ar restr fer Gwobrau Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc Zoom Cymru, o dan gategori’r ffilm fer Gymraeg orau.
Angharad, Luknam a Michael yw’r myfyrwyr sy’n gyfrifol am y ffilm hon a gallwch ei gweld drwy fynd i’r dudalen Caernarfon Creadigol a chlicio ar y ffilm ‘Cychod gan Luknam, Michael ac Angharad’. Dyma oedd ganddynt i’w ddweud am yr hyn wnaeth gymell eu gwaith arbennig.
“Cawsom friff gan Cwmni Da a Phapur y Dre i greu darn o waith a oedd yn portreadu Caernarfon mewn golau cadarnhaol. Fe benderfynom greu ffilm fer mewn arddull ‘stop-motion’ a chanolbwyntio ar bortreadu Doc Fictoria – harbwr hanesyddol Caernarfon sy’n edrych dros harddwch y Fenai. Cawsom y syniad o greu cychod bach origami ac addurno hwy gyda dyfyniadau o awdl adnabyddus Meirion MacIntyre Huws, ‘Gwawr’, sy’n trafod Cymreictod yr ardal a phwysigrwydd cadwraeth yr iaith. Rydym yn gobeithio ein bod wedi creu ffilm gyfoes a thrawiadol sydd yn cyfleu neges gadarnhaol y gerdd, yn portreadu Cymreictod Caernarfon ac yn rhoi gobaith i ni’r Cymry er gwaethaf ystadegau’r cyfrifiad.”
Cynhelir y noson wobrwyo ym Merthyr Tudful ar 30ain Mawrth, ac mae cael eu rhoi ar y rhestr fer yn glod arbennig i’r myfyrwyr a’u gwaith.
“Rydym yn falch iawn o gael ein dewis i fod ar restr fer gwobrau Zoom Cymru ac mae hi’n fraint cael cymryd rhan mewn sefydliad sy’n cynnig cyfleoedd creadigol mewn ffilm, teledu a’r cyfryngau i ieuenctid Cymru.”
Mae Zoom Cymru yn elusen gofrestredig sy’n gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymoedd De Cymru ers 2006. Mae’n trefnu Gŵyl Ffilmiau Pobl Ifanc Ryngwladol yng Nghymru, sy’n cynnwys Gwobrau Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc Zoom. Mae’r elusen yn cynnwys grŵp llywio o bobl ifanc, sef Cyngor Ffilm Zoom, ac mae’n darparu rhaglen hyfforddi ym maes ffilm a’r cyfryngau, sy’n cynnwys portffolio o weithdai a gaiff eu darparu ledled Cymru. Mae hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc i gynhyrchu ffilmiau.
Pob lwc i’r tri ohonynt.