
Ar ôl misoedd o ansicrwydd mae ‘na landlord newydd yn y Twthill Vaults. Mae Gwyndaf Jones wedi cymryd y denantiaeth gyda Steffan Elidir yng ngofal y bar. Cafwyd croeso cynnes gan y selogion, yn enwedig y rheini oedd yn gweld colli gemau pêl-droed byw ar y teledu. Roedd ‘na fwy fyth o groeso pan ddarganfuwyd bod pris y cwrw wedi gostwng! Mae Gwyndaf bellach yn gyfrifol am ddwy dafarn yn Dre. Fo hefyd sy’n rhedeg y Castell yn ogystal â Pen Nionyn (Groeslon) a’r Halfway (Talysarn).