
Daeth anrhydedd arbennig i ran Katherine Owen, Clerc Cyngor Tref yn ddiweddar pan etholwyd hi’n Gadeirydd Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol Cymru a Lloegr, corff proffesiynol ar gyfer clercod. Bu’n Is-Gadeirydd am y 3 blynedd dwytha yn cynrychioli Gwynedd a Môn ar y corff cenedlaethol sydd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae Katherine wedi bod yn ei swydd fel clerc Cyngor Tref ers 6 blynedd.