Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
DYFAL DONC! | Papur Dre

DYFAL DONC!

alys voice

Flwyddyn yn ôl, siom gafodd Alys Williams ar raglen BBC 1 The Voice. Mi aeth ei nerfau’n drech na hi, ac, er bod y beirniaid wedi canmol ei llais, nôl i Gaernarfon ddoth hi at ei dau blentyn bach, Catrin a Gruff sy’n efeilliaid.

Ond mi benderfynodd roi cynnig arni eto, ac ar ôl mynd drwy felin y clyweliadau am yr ail waith, mi lwyddodd i gael cyfle arall. Oedd hi’n nerfus y tro yma? “Oeddwn, wrth fynd ar y llwyfan”, meddai Alys, ”ac wrth imi gamu o flaen y gynulleidfa, dyma fi’n meddwl, be dw i’n neud fama? O’n i’n wir ofn na fasa neb yn troi rownd eto. Ond mi gaeish i fy llygaid a bwrw mlaen. Y funud nath Danny (un o’r panel beirniaid) droi rownd, roedd popeth yn iawn”. Yna, fe benderfynodd pob un o’r pedwar ar y panel bod Alys yn haeddu ei lle yn y rownd nesa.

Dydy hi ddim wedi cael hyfforddiant llais ffurfiol ar gyfer y gystadleuaeth: mi gafodd hi un sesiwn efo hyfforddwr cyn y rhaglen ond dim byd arall ac ella mai dyna sy’n gwneud ei llais mor unigryw. “Dw i wedi gweithio’n galed ers llynedd”, meddai, “wedi bod yn gigio lot i godi hyder”. Wrth wrando ar y recordiad o’r rhaglen eto, roedd hi’n clywed y nerfau yn ei llais yn y llinellau cyntaf, ond roedd hi lot hapusach efo’r perfformiad y tro yma.

Roedd yn rhaid iddi ddewis y gân o restr a doedd hi ddim yn siŵr iawn amdani i ddechrau, ond ar ôl jamio dipyn efo Ifan Dafydd, newid ambell gord a’i harafu hi ‘chydig, fe ddechreuodd fwynhau ei chanu hi. Roedd hi wedi penderfynu llynedd, tasai hi’n mynd drwodd, mai yn nhîm Tom Jones y byddai’n licio bod am ei fod o’n dipyn o arwr iddi. Ond pan ddaeth hi’n adeg penderfynu eleni, dyma’r beirniaid eraill i gyd yn trio’i pherswadio i’w dewis nhw. Roedd yn anodd penderfynu, ond Tom aeth â hi yn y diwedd.

Roedd ei brawd, Ifan, ei gariad a ffrind i Alys efo hi yng nghefn y llwyfan ac mae’n dweud bod tipyn o gwlwm yn datblygu rhwng y cystadleuwyr hefyd. Efo’u nain yng Nghaernarfon roedd Gruff a Catrin pan oedd Alys yn Llundain ond fe gafodd y teulu a’i ffrindiau i gyd gyfle i wylio’r rhaglen gyda’i gilydd ar sgrin fawr mewn gwesty yn Llanberis. Roedd y plant wedi gwirioni’n lan ac yn neidio o gwmpas, er difyrrwch mawr i bawb.

Er ei bod bellach yn un o sêr ‘The voice’ ar raglen nos Sadwrn BBC1, mae Alys wedi addo rhoi gwybod i Papur Dre pan fydd yn gigio’n lleol tro nesa ac mae pawb yng Nghaernarfon yn dymuno’n dda iddi yn y rownd nesa!

 

Jill Evans