Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
O Lon Cae Du i Ecwador | Papur Dre

O Lon Cae Du i Ecwador

GwynforRoberts

Dwi wedi prynu tŷ – yn Ecwador!!

Tybed faint ohonoch chi sydd wedi meddwl fwy nac unwaith y buasai hi’n braf symud i fyw i rywle cynnes. Wel beth am Ecwador, De America? 29 gradd yn ystod y dydd, 24 yn ystod y nos a hynny drwy’r flwyddyn!

Mae Gwynfor Roberts newydd brynu tŷ ac yn symud i fyw fis nesaf i Crucita – tref fechan o chwe mil o bobl ar lan y Mor Tawel yn Ecwador. Fel yr hed y fran, Papua Guinea Newydd ydy’r tir y deuech ar ei draws gynta, dros 9,000 o filltiroedd i ffwrdd! Ar y funud mae Gwynfor a’i wriag Diane yn byw yn Tampa, Florida ac wedi bod yn meddwl am symud i rywle ‘gwahanol’ ers tro. Mae Gwynfor, sy’n 56 oed, wedi ymddeol a Diane, merch o Philadelphia, yn teithio’r byd yn gweithio i’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad (Prydain) ond yn sefydlog ym mhle bynnag mae’n byw yn y bon. “Mi fuon ni’n chwilio am rwla dros Dolig a’r flwyddyn newydd,” meddai Gwynfor, oedd adra yn ymweld a’i chwaer Ellen yn Dre a’i ferch Emma, ei phartner Rob a’i ŵyr Dylan ym Manceinion (tra bod Diane “efo’i bosus yn Llundain”). “Roeddan ni isho rwla heb gael ei ‘ddarganfod’. Nid Costa Rica, Colombia, Mecsico neu rwla felly,” ychwanegodd. “Yn y diwedd mi ddewison ni Ecwador a Crucita.”

 Cae Garw

Ond mae’r daith yn cychwyn yn Lon Cae Du lle magwyd Gwynfor. Un o deulu Cae Garw, Rhosbodrual ydy o. Twm oedd ei daid. Yn bymtheg oed gadawodd Ysgol Syr Hugh Owen i ymuno a’r fyddin – saith mlynedd o deithio, i’r Almaen a Chyprus yn bennaf. Daeth adra wedyn i weithio i BT. Treuliodd 12 mlynedd fel peiriannydd a 10 arall yn adran y Galwadau Maleisus ym Mae Colwyn. Daeth y swydd honno i ben. Penderfynodd dderbyn tal diswyddo. Banciodd hwnnw ac, yng nghanol ei bedwardegau, derbyniodd y cynnig i fynd yn ol i’r fyddin.Crwydro’r byd fu ei hanes ers hynny.

“Roeddan nhw isho sarjant yn Karachi, Pakistan,” meddai Gwynfor “ond yn Kabul, Afghanistan, y landish i. O leia roedd o’n cychwyn efo ‘K’ ac yn gorffan yn ‘stan’!” Brunei fu hi wedyn, ddwywaith, yn ogystal a Bosna, Kosovo a Gwlad Groeg. Ond yn Afghanistan y cafodd y braw mwyaf. “Mi ddois i a met wyneb yn wyneb ag un o filwyr y wlad,” meddai Gwynfor. “Roedd o’n pwyntio’i wn aton ni, yn mynnu pres neu mi fasa’n saethu. Mexican Stand-off go iawn. Mi fuon ni’n herio’n gilydd am sbel – ein bysadd ar gliciad y gwn. Mi galliodd o’n diwadd, sylweddoli bod na ddau ohonan ni a’i heglu hi. Pan w’t ti’n cael rhybudd fel’na gan y Bod Mawr, ti’n gymryd o!”

Washington

Ffarweliodd a’r fyddin a symud i Washington fel swyddog diogelwch yn Llysgenhadaeth Prydain. Cyfarfu a phwysigion fel Tony Blair a Gordon Brown ond yn bwysicaf oll, a Diane Malamut. “O’n i’n mynd rownd un noson yn diffodd y gola ym mhob man pan ddois i ar draws un bach unig yn gweithio’n hwyr. Mi heliais hi allan. A’i phriodi yn 2011!”

Mae’r teithiau pleser wedi bod yn bur niferus hefyd, yn bennaf yn cefnogi tim peldroed Cymru. Doedd o fawr o chwaraewr yn yr ysgol medda fo. Yn wir rhoddodd gynnig ar chydig o rygbi unwaith. Mae’n cofio’n dda un noson wlyb ac oer dros ’r Abar pan fu raid i bawb chwilio am ddannedd gosod Alcs [Alun Roberts] yn y mwd! Ond ffwtbol ydy’i gariad cynta. Bu yn Denmarc, Azerbaijan, Swistir, Latvia Efrog Newydd a sawl man arall yn cefnogi Cymru gan wneud pwynt o gyrafod a’i gyd Gofis. Hyd y gŵyr Gwynfor does na’tr un Cofi na Chymro arall yn Crucita. “Ond ti byth yn gwbod”, meddai. “O’n i’n cerddad y stryd yn Salt Lake City ryw dro a mi ddois i ar draws dau foi o Bwllheli!

Ma’r byd yn lle bach rwan sdi. Llythyr oedd bob dim ers talwm. Rwan efo tecst, skype, e-bost a bob dim does na neb yn bell iawn. A wir i ti, ma hi lot haws cadw dy Gymraeg rwan,” meddai cynrychiolydd rhugl y Cofis yn Ecwador.