
Glanhau a chael gwared ar ysbwriel – dyna oedd bwriad dau ddiwrnod twtio stad yng Nghaernarfon yn ddiweddar.
Mewn dau ddigwyddiad ar wahan ymunodd plant Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Maesincla a staff CCG, Trefi Taclus a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i glirio strydoedd yn Ffordd Sgubor Goch a Maes Heulog yn y dref.
Yn y sesiwn ar Ffordd Sgubor Goch casglwyd tri llond sgip o ysbwriel gyda chymorth disgyblion blwyddyn 7 ac athrawon Ysgol Syr Hugh Owen. Ar yr ail ddiwrnod ym Maes Heulog daeth rhai o ddisgyblion Ysgol Maesincla allan i helpu a bu pawb yn gweithio’n galed i dwtio a glanhau eu hardaloedd.
Dywedodd Iolo Roberts, Warden Cymunedol CCG yn ardal Caernarfon: “Diolch o galon i bawb ddaeth i helpu. Mae’n deimlad braf gweld pawb yn cyd-weithio fel hyn er lles y gymuned. Mae’n gyfle i’r plant gael cyfrannu a gwneud gwahaniaeth yn eu hardaloedd. Roedd ol eu gwaith caled i weld yn glir ar ddiwedd y ddau ddiwrnod.”