
Mae gan bob drws stori i’w dweud ac wrth agor unrhyw ddrws rydych yn cerdded i mewn i stori. Mae’n stori am unigolyn neu deulu sydd wedi cyfrannu i’r stryd honno neu’r gymdeithas. Dyma ychydig o Ddrysa Dre ac mae hanes a stori tu ôl i bob un.
Welwch chi ddrysau enfawr y castell sydd nawr ar gau wrth i ni gerdded heibio ar noson braf yn y gwanwyn. Tu ôl i’r drysau mae un o enghreifftiau pensaernïaeth gorau’r byd. Master James of St George oedd pensaer castelli Edward y cyntaf ac mae’r castell yng Nghaernarfon wedi ei alw’n ‘Ganolfan Weinyddiaeth, Amddiffynfa, Palas ac arwydd o Reolaeth Estron’.*
Wrth gerdded rownd y gornel fe welwn y carchar o’n blaenau, adeilad mawr llwm a llwyd gyda drysau mawr o goed. Bellach, cartref Cyngor Gwynedd yw’r adeilad ond hyd at 1921 dyma oedd carchar Caernarfon.
Roedd crogi wedi digwydd yng Nghaernarfon ers yr oesoedd canol a’r olaf i’w grogi yng ngharchar Caernarfon oedd William Murphy, Gwyddel a lofruddiodd Gwen Ellen Jones yng Nghaergybi ar noson Nadolig 1908. Roedd yn draddodiad bod cloch eglwys Santes Fair yn canu am bum munud cyn y crogi ac yn arafu ar y deuddeg trawiad olaf. Wrth i’r gloch daro’r deuddegfed trawiad fe ddisgynnodd y tafod a holwyd a oedd William Murphy wirioneddol yn euog o’r drosedd. Mae sôn fod ei ysbryd yn dal i gerdded o amgylch y rhan yma o Gaernarfon, a llawer wedi gweld a chlywed pethau rhyfedd.
Mae drysau Tafarn y Bachgen Du yn gyfarwydd iawn i lawer o Gofis a Cofis ’Lad hefyd a llawer ohonom wedi cerdded drwy ddrws y bar am ein peint cyntaf erioed ac yn dal i fynd yn ôl yno am fwy.
Adeiladwyd y dafarn yn 1522 fel mae’r dyddiad ar dalcen yr adeilad yn ddweud, er yn sicr byddai rhyw adeilad wedi bod yma ynghynt. Arferai fod yn ddwy dafarn sef y ‘King’s Arms’ a’r ‘Fleur de Lys’, cyn i un landlord brynu’r ddwy a chreu Tafarn y Black Boy fel y mae heddiw, ac mae llawer iawn o gymeriadau wedi croesi’r rhiniog dros y canrifoedd.
Mae enghreifftiau o ddrysau Sioraidd, Edwardaidd a Fictoraidd i’w gweld wrth gerdded o amgylch y dref, a rhai o’r goreuon ar y Maes ac yn Stryd yr Eglwys, ond un o’r drysau mwyaf trawiadol yw drws Plas Llanwnda, Stryd y Castell. Cartref teulu Garnons oedd hwn a diolch byth bod y ddelwedd wedi ei chadw gyda’r cerrig llwyd ar ddrws mawreddog. Hwn oedd lleoliad y Llyfrgell benthyg llyfrau cyntaf yn y gogledd.
Wrth gerdded ar hyd strydoedd y dref gaerog gwelwn ddrysau siopau, swyddfeydd, bwytai a chartrefi o bob math. Mae rhai yn ddrysau modern plastig hyll ond mae ’na hefyd drysor o ddrysau hynafol ac mae’n werth aros am ychydig i sylwi arnynt.
Dyna ni wedi gweld digon o ddrysau i’n cadw yn hapus am y tro, felly beth am fynd am banad neu am beint a cherdded trwy’r drws rydych yn ddewis am eich llymaid?
٭ Dyfyniad o ‘Castles in Distant Lands’ – Robert Dean 2009 Lawden Hayes Publishing