
Cafodd Alan Lewis o Maesincla ddiwrnod wrth ei fodd ar gwrs Rasus Caer yn ddiweddar. Ond doedd ’na yr un ceffyl ar gyfyl y lle!
Roedd Alan yno ar wahoddiad y Gwasanaeth Trallwyso Gwaed gan ei fod o bellach wedi rhoi gwaed 75 o weithiau.
“Pan ti wedi rhoi gwaed 25 o weithiau ti’n cael bathodyn,” meddai Alan. “A wedyn bathodyn a ffownten pen ar ôl hanner cant.”
Pryd o fwyd yng Nghaer oedd y gydnabyddiaeth ar ôl 75.
Yn y llun mae Alan gyda Jean, June a Dawn, tair o’r nyrsys y bydd yn eu gweld yn gyson wrth roi gwaed yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon.