
Ddaru’r Cynghorydd Huw Edwards rioed feddwl y bydda fo yn mentro i’r byd digidol ond dyna sydd wedi digwydd ers iddo gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd yn ddiweddar. Pan alwodd Papur Dre i’w weld ef a’i wraig Tegwedd yn eu cartref yn ddiweddar mi oedd yr iPad a Huw yn fêts mawr.
‘Mae ’na dipyn llai o lythyrau yn dod yma rŵan, meddai Huw, ‘ar ôl i’r teclyn yma ddod i’r tŷ ’ma. Mi fydd yn handi i mi rŵan efo’r cyfrifoldebau newydd fydd gen i yn y Cyngor.’
Er bod y byd digidol wedi bod yn ddiarth iddo, nid felly’r bywyd cyhoeddus. Mae wedi bod yn Gynghorydd Gwynedd ers 2005 gan gynrychioli ward Cadnant, yn faer dair gwaith ar Gyngor y Dref ac yn Gynghorydd Tref yn ddi-dor ers 1979.
‘Dwi wrth fy modd adeg lecsiwn,’ meddai Huw. ‘Bydd Tegwedd yn dod efo fi a gan iddi fod yn gweithio fel ‘home help’ tan iddi ymddeol yn 65 oed, mae hi yn nabod pawb. Problem y ddau ohonon ni wrth ganfasio yw siarad gormod a chymryd panad yn bob man ond mi ydan ni wrth ein bodd yn cyfarfod efo hwn a’r llall. Dan ni wedi byw yn byw yn y tŷ yma ers i ni briodi 53 mlynedd yn ôl ac yn nabod dre a’i phobl yn dda iawn.’
Mae ’na ddywediad, tu ôl i bob dyn da, bod ’na ddynes well. Wel mae Huw yn barod iawn i gydnabod cefnogaeth Tegwedd iddo dros yr holl flynyddoedd. Mae bywyd teulu yn bwysig iddyn nhw ac mae’r ddau wedi mopio efo Tomos ac Elin, eu hŵyr a’u hwyres, a’r newydd da arall yw y bydd Nia eu merch hynaf wedi priodi erbyn i chi ddarllen hwn. Cariad arall y ddau yw Capel Caersalem ac roedden nhw’n awyddus iawn i ddiolch i Rhys Llwyd, y Gweinidog, a holl aelodau’r Capel am eu cefnogaeth mewn cyfnod pan nad yw cyflwr iechyd Huw wedi bod yn dda.
‘Mae Huw yn gallu gwylltio fel matsian,’ medd Tegwedd, ‘ond ddim isio gweld neb yn cael cam mae o. Dyna pam ddaru fo ymladd lecsiwn am y tro cyntaf fel Cynghorydd Tref yn ward Yr Hendre a dyna sydd yn ei yrru. Cafodd ei siomi yn ddiweddar gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am nad oedden nhw’n fodlon gwrando ar farn y bobl. Mae’r math yna o beth yn mynd o dan ei groen.’
Ei ddiléit arall yw pêl-droed a’i hoff dimau yw Arsenal a Caernarfon Town. Mae wrth ei fodd yn mynd i’r Ofal. Mae wedi bod yn aelod o Gôr Meibion Caernarfon ers adeg Steddfod Rhuthun yn 1973. Cafodd groeso mawr yn ôl i’r Cor yn ddiweddar ar ôl iddo fod i ffwrdd am 8 mis oherwydd ei iechyd.
Mae’n edrych ymlaen yn fawr at ei dymor fel Cadeirydd Cyngor Gwynedd. ‘Mae’n anrhydedd mawr’, meddai, ‘yn arbennig a minnau wedi derbyn cefnogaeth gan bawb ar draws pob plaid o fewn y Cyngor. Fy mlaenoriaeth fydd cael y Cyngor i weithio yn un efo’n gilydd a hefyd i wneud cymaint ag y medra i helpu achosion da. Dwi’n hapus iawn i helpu bob amser.’
Bydd Huw, efo cefnogaeth Tegwedd, yma i aros am amser hir eto.