
Annwyl Papur Dre,
Dyma lun sydd yn mynd â ni’n ôl 60 mlynedd. Llun ydyw o ‘High Street Coronation Party’.
Tybed faint o’r darllenwyr fydd yn adnabod eu hunain, aelodau eu teulu neu gyfeillion? Trefnwyd y parti i’r rhai a drigai o fewn muriau’r dref ac fe’i cynhaliwyd yn Neuadd yr Aelwyd.
Ar y pryd roeddem yn byw yn 22 High Street ac mae merched ein teulu i gyd yn y llun, sef Mam, Mrs Dilys Williams yn gafael yn fy chwaer ieuengaf Carolyn oedd yn fis oed, Eryl oedd yn ddwyflwydd, Judith oedd yn 4 oed a minnau Buddug oedd bron yn 10 oed. Yno mae teulu Porth yr Aur, sef Mr a Mrs Bonner Pritchard, Menai, Mona, Gwenda a Richard. Yn y blaen hefyd mae Mrs Williams gyda’r diweddar Sian (Wilkinson).
Cofion
Buddug Jones