
Prosiect newydd i bobl ifanc 13 – 16 oed yw Dreamscheme sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc Peblig gael blas ar waith cymunedol a chydweithio er lles y gymuned. Prosiect ar y cyd rhwng yr Heddlu ac Eglwys Noddfa yw hwn ac mae’r bobl ifanc yn gallu casglu pwyntiau i fynd ar drip ar ddiwedd y tymor.
Un o’r prosiectau yw’r ardd gymunedol ac mae’r bobl ifanc wedi bod yn brysur yn chwynnu, torri gwair, torri coed, peintio a phlannu blodau, llysiau a choed afalau. Penderfynwyd bod angen dangos yr ardd ar ei newydd wedd i’r bobl leol, i’r arianwyr, Cynghorwyr Tref a’r Maer. Felly aethom ati i drefnu BBQ cymunedol yn yr haul chwilboeth ddydd Sadwrn yr 8fed o Fehefin. Daeth Kenny Richardson i wneud y BBQ ac roedd yn grêt gweld cymaint wedi dod i fwynhau yr ardd ac i fwyta gwledd o fwyd ffresh oedd wedi ei baratoi gan y bobl ifanc.