Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Gafael Llaw i godi arian | Papur Dre

Gafael Llaw i godi arian

Gafael Llaw

Mae elusen newydd wedi cael ei sefydlu yng Nghaernarfon er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc efo cancr. Bydd “Gafael Llaw” yn cynnal gweithgareddau i godi arian tuag at Ward Dewi (Ysbyty Gwynedd), Ysbyty Alder Hey (Lerpwl) a’r elusen Clic Sargent  gan gychwyn gyda ‘HOWZAT CO’ ar Sul Gŵyl y Banc ddiwedd mis nesa. Ar Awst 25, yng nghlwb rygbi Dre, y prif atyniad fydd gemau criced rhwng cymdeithasau a chwmnïau lleol. Ond fe fydd na hefyd adloniant amrywiol, bandiau pop, disco ac ocsiwn (yn cynnwys eitemau gwerthfawr – o’r byd chwaraeon yn bennaf).

Yn ôl Cadeirydd Gafael Llaw, Iwan Trefor Jones, mae nifer dda o bobl eisoes wedi cytuno i fod yn rhan o’r hwyl ar Ŵyl y Banc.

“Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod da yn y Clwb Rygbi,” meddai “a gobeithio y daw pobl yn eu cannoedd i gefnogi’r achlysur a’r elusen newydd.”

Cofiwch y dyddiad felly, Awst 25 ar y Morfa. Am ragor o wybodaeth am “HOWZAT CO” cysylltwch ag ysgrifennydd Gafael Llaw, Trystan Gwilym: 07717 407630.