Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
DIRPRWY FARNWR RHANBARTH IEUENGAF PRYDAIN | Papur Dre
Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

DIRPRWY FARNWR RHANBARTH IEUENGAF PRYDAIN

Kelly

Enillodd Kelly Hynes, sydd wedi ei geni a’i magu yng Nghaernarfon, radd yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i wneud cwrs Ymarfer Cyfreithiol yng Nghaer.
Gwnaeth ei herthyglau yn Pritchard Jones Lane, sydd a’u swyddfa yng Nghaernarfon, am 2 flynedd a pharhau i weithio yno fel cyfreithiwr am 6 blynedd. Mae bellach yn gydymaith gyda cwmni cyfreithwyr Gamlins ac er ei bod yn gweithio o’u swyddfa ym Mharc Menai, Bangor, mae’n dal yn fwy na pharod i gynrychioli cleientiaid o Gaernarfon.
Mae Kelly wedi arbenigo mewn gwaith llys a theulu ynghyd â gwaith eiddo a phrofiant a heb os bu hynny’n help mawr iddi wrth iddi ymgeisio i ddod yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth. Bu’n broses hir a llafurus ond bu’n werth yr ymdrech gan fod Kelly erbyn hyn yn eistedd fel dirprwy farnwr oddeutu dwywaith y mis. Ac er ei bod yn cyfaddef ei bod yn rhyfedd ar adegau, a hithau mor gyfarwydd â bod ar ochor arall y fainc, mae Kelly wrth ei bodd yn ei rôl newydd.
Ac o fywyd proffesiynol prysur i fywyd personol prysur. Fe briododd Kelly ychydig dros flwyddyn yn ôl ac ers hynny mae hi a’i gwr Robin wedi bod yn brysur yn symud i mewn i’w cartref newydd yng Nghaeathro. A phan mae’n cael munud sbâr mae wrth ei bodd yn cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu, teithio, bwyta allan a chadw’n heini.
Heb os mae Caernarfon yn falch o longyfarch un o gyfreithwyr mwyaf addawol yr ardal ar ei llwyddiant.