
Bu criw o blant a phobl ifanc Cofis Bach, Noddfa ar drip diweddar yn Archifdy Caernarfon fel rhan o brosiect rhwng Clwb Celf Cofis Bach a’r Archifdy.
Mae’r plant a’r bobol ifanc, o dan arweiniad yr artist Annwen Burgess-Williams a Nia Lloyd Roberts, wrthi’n creu gweithiau celf wedi eu hysbrydoli gan hanesion lleol sy’n mynd yn ôl ganrifoedd. Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn Oriel Pendeitsh yn fuan yn 2014.
I gyfoethogi’r profiad a chael cyfle go iawn i weld yr hen ddogfennau, mi aethon nhw i lawr i’r Archifdy am dro. Cafwyd croeso cynnes gan staff yr Archifdy a bachwyd ar siawns i weld corneli cudd sydd ddim ar agor i’r cyhoedd fel arfer! Ffodus iawn, ac agoriad llygaid i’r bobol ifanc oedd gweld olion a dehongliadau o’r hyn oedd yn digwydd i’r Cofis a phobol Gwynedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg drwy edrych ar ddogfennau Llys y Sesiwn Chwarter sy’n dyddio’n ôl i 1541.
Hoffai Cofis Bach ddiolch i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru a m eu cefnogaeth i’r cynllun diddorol hwn.