
Mae 2014 yn flwyddyn Gemau’r Gymanwlad. Eleni maen nhw’n cael eu cynnal yn Glasgow ac mae tri o Gaernarfon â’u bryd ar fynd i’r Alban i gynrychioli Cymru ddiwedd Gorffennaf a dechrau Awst.
Gareth Warburton
Bu ond y dim i Gareth, sy’n 30 oed, gael medal yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi yn 2010. Daeth yn bedwerydd yn ffeinal y 400 metr. Mae’n arbenigo yn yr 800 metr erbyn hyn er y bydd reit siŵr yn y tîm ras gyfnewid 4x400metr hefyd gyda Dai Greene a Rhys Williams. Ar hyn o bryd mae Gareth, cyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn hyfforddi yn Arizona ac am y saith mis nesaf mae ei amserlen hyfforddi yn un llym iawn. Bydd ei fywyd yn gylch cyson o gysgu, hyfforddi, bwyta’n iach, arbrofion a thriniaethau megis acupuncture a ffisiotherapi –i gyd ar gyfer ras sydd ond yn para, ar gyfartaledd, rhyw 1 munud 45 eiliad!
Gareth sy’n dal record Cymru yn yr 800 metr ac mae’n obeithiol o orffen o leia un safle’n uwch na’r hyn lwyddodd o yn India. Yn ogystal â hyfforddi’n galed mae Gareth hefyd yn gweithio rhan-amser yn llyfrgell Metropolitan Caerdydd.
Osian Jones
Un arall o gyn ddisgyblion Syr Hugh ydy Osian Jones. Taflu’r ordd (hammer) mae Osian, sy’n ugain oed, ac mae o o fewn un fetr i gyrraedd y pellter sy’n rhaid ei daflu i gael ei ystyried ar gyfer tîm Cymru yn Glasgow. 63 metr ydy’r pellter holl bwysig hwnnw. Mae ganddo tan ddechrau Mehefin i gyrraedd y nod hwnnw ac yn dawel bach mae’n ffyddiog y gall wneud hynny. Pe na bai’n llwyddo, wel y Gemau nesa yn haul Awstralia, 2018 amdani! Astudio fferylliaeth yn Lerpwl mae Osian (ar ei drydedd flwyddyn) ac mae’n aelod o glwb athletau y Liverpool Harriers lle bydd yn ymarfer bum gwaith yr wythnos – ddwy noson yn taflu’r ordd a thair noson yn y gampfa.
Mari Fflur Davies
Pymtheg oed ydy Mari, y trydydd i gwhwfan baner lwyddiannus Syr Hugh! Mae hi’n nofwraig o fri ac yn bencampwraig ysgolion gwledydd Prydain dan 16 oed yn y 100 metr dull rhydd. Yn y pencampwriaethau hynny yn Sheffield y llynedd fe ddaeth hi hefyd yn ail yn y 50metr ac yn drydydd mewn dwy ras gyfnewid. Bu’n ymarfer yn Abertawe yn ystod wythnos ola’r flwyddyn a’r mis nesaf bydd yn hyfforddi gyda charfan Cymru unwaith eto, cyn y bydd y tîm yn cael ei ddewis yn Ebrill – a Mari ynddo gobeithio.
Hei lwc y daw 2014 â llwyddiant i’r tri ac y gwelwn ni nhw yn Glasgow tu ôl i’r Ddraig Goch.