
Er bod y rhan fwyaf ohona ni’n casáu meddwl am gychwyn efo llond bŵt neu drelar o stwff i’w ailgylchu mae ‘na wastad griw hwyliog a chlên yn ein croesawu wrth giât Caergylchu yng Nghibyn, Caernarfon. Mi aeth Papur Dre yno ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog i sgwrsio efo’r criw. Oherwydd y tywydd roedd hi’n ddiwrnod distaw ond fel arfer maen nhw’n gweld tua 250 o geir mewn diwrnod. Mae angen nodi rhif y cerbyd a chyfeirio’r car at y sgip berthnasol. Mae’r mis ar ôl y Nadolig yn ofnadwy o brysur a chafwyd hyd at 460 o geir mewn cyfnod o 6 awr ar yr 28ain o Ragfyr. Cardbord, papur a choed Nadolig oedd y rhan fwyaf o’r eitemau i’w hailgylchu. Er hyn, mae’r ganolfan yn derbyn bob math o ddefnyddiau gan gynnwys rwbel, plastig, gwydr, gwastraff gardd, sgrap metel a gwastraff t . Dyweddodd Gwyn, un o’r gweithwyr, ŷmai rhai o’r pethau rhyfedda’ erioed iddo ei dderbyn oedd nionyn 5 pwys a choes prosthetig! Mae criw Caergylchu wedi gwneud ffrindiau efo rhai o’r bobl sy’n mynd yno’n gyson ac mae ambell un hyd yn oed yn cael mynd i mewn i’r cwt am baned a sgwrs.Maen nhw hefyd yn gweld ambell i seleb yn dod drwy giatau’r gaer efo’u sbwriel. Y person enwocaf erioed hyd yn hyn ydi cyn fachwr Cymru, Garin Jenkins. Yn y byd sydd ohoni, gyda phobl yn prynu pethau newydd o hyd, mae Caergylchu a gwaith caled y criw yn hanfodol ar gyfer ceisio byw’n fwy gwyrdd. Defnyddiwch Caergylchugan ei fod yn eich milltir sgwâr. Does wybod be na phwy welwch chi yno!