
Fis diwethaf fe aeth Dylan Wyn Williams o Twtil, perchennog ‘Siop Chips Dyl’ yn yr Hendre, i Periw – i briodi.
Ac mae Carolina Puca Parco bellach yn Carolina Puca Parco de Williams.
Ar y ffordd i Machu Picchu, hen bentref enwog yr Incas, y cyfarfu’r ddau. Roedd Dylan ar y pryd yn gweithio fel tynnwr lluniau ar longau pleser, yn teithio rownd Ewrop a’r Caribî ac wedi cymryd chydig o wythnosau o wyliau i deithio De America.
Mewn bar yn Cusco yr oedd o (dinas yn Ne Periw sy’n safle Treftadaeth y Byd, fel Castell Caernarfon!) pan gyfarfu â’r ferch ’ma o Chorillos, un o ardaloedd y brifddinas Lima. Doedd gan Dylan ddim gair o Sbaeneg ond roedd Carolina wedi dysgu Saesneg yn y coleg. Roedd hynny nôl yn 2010. Ers hynny mae Dylan (sy’n wreiddiol o’r Felinheli ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh) wedi bod yn ôl ym Mheriw fwy nag unwaith, mae Carolina wedi treulio chwe mis yng Nghaernarfon ac fe gyrhaeddodd y berthynas ei phenllanw pan briododd y ddau ganol Ionawr yn Chosica, tref fechan rhyw awr i’r dwyrain o Lima. “Roedd hi’n briodas reit fawr,” meddai Dylan, “gyda thros gant o westeion. Maen nhw’n deulu mawr o rhyw 40 mae’n siŵr,” meddai. Ond dim ond dau Gymro bach oedd yn eu canol nhw – Dylan ei hun wrth gwrs a Siôn ei frawd, deithiodd i dde America i fod yn was priodas.
Yn anffodus mae Dylan a Carolina (sy’n gweithio mewn bwyty yn Lima) ar y funud yn byw ar wahân – yn sgeipio, ffonio a ffêsbwcio drwy’r amser – ond y gobaith ydy y bydd Carolina wedi cael visa erbyn diwedd yr haf ac y caiff hi ddod i Dre wedyn i fod yn Mrs de Williams go iawn!