Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1080

Warning: Illegal string offset 'instance' in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-content/plugins/theme-my-login/includes/class-theme-my-login.php on line 1084
Beth fydd tynged Engedi? | Papur Dre
Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

Warning: count(): Parameter must be an array or an object that implements Countable in /home/hbbkif3lie4g/public_html/wp-includes/post-template.php on line 284

Beth fydd tynged Engedi?

image

BETH FYDD TYNGED ENGEDI?
Colomennod sy’n cynnal yr achos yng Nghapel Engedi y dyddiau yma. Ond fe all hynny newid. Mae’r capel newydd gael ei werthu mewn ocsiwn am £45,000 (i’w droi yn fflatiau yn ôl y sôn). Cafodd Papur Dre ganiatâd arbennig i fynd i gael cip olwg ar yr adeilad sydd, nid yn unig yn rhan o hanes Caernarfon, ond hefyd yn rhan o hanes Cymru a thu hwnt.

Mewn ystafell yng Nghapel Engedi (neu oddi tano, does na neb yn hollol siŵr) yr honnir i Michael D Jones, Lewis Jones ac eraill ddod ynghyd ym 1856 i drafod y posibilrwydd o sefydlu Gwladfa ym Mhatagonia. Boed hynny’n wir ai peidio fe roddwyd llechen i gofnodi’r digwyddiad a chafwyd dathliadau gwerth chweil ym mis Mehefin 1965 i ddathlu canmlwyddiant y fintai gyntaf honno a hwyliodd ar y Mimosa o borthladd Lerpwl i Borth Madryn.
Un a oedd yn y dathliad hwnnw ym 1965 oedd y Parchedig Trefor Jones. Fe gafodd o ei sefydlu yn weinidog ar yr eglwys ychydig fisoedd cyn hynny a bu’n weinidog yn Engedi am y chwarter canrif a ddilynodd tan ei ymddeoliad ym 1990. [LLUN TREFOR JONES Y Parchedig Trefor Jones, gweinidog Capel Engedi 1965 – 1990]
“Dw i’n cofio i ni gael Cymanfa gwerth chweil,” meddai. “Y capel dan ei sang. Dim lle i eistedd i wraig y gweinidog hyd yn oed, roedd Rhoda ar silff ffenest yn y galeri os cofia i’n iawn! Roedd o’n dal oddeutu fil o bobl, cofiwch. Peleg [Williams] yn arwain ac Owenna Williams wrth yr organ. Roedd na ddirprwyaeth o Batagonia yno hefyd.”
Roedd y festri yn dal rhyw 250 hefyd ac roedd yno gegin anferth, fuddiol iawn ar gyfer sasiynau a phartïon Nadolig i’r plant. Ond erbyn heddiw, yn wahanol i’r capel ei hun, mae’r festri hardd honno wedi mynd â’i phen iddi yn llwyr. Syrthiodd y to ond yn wyrthiol mae’r llwyfan a’r llenni yn aros.
Pan ddaeth Trefor Jones i Gaernarfon roedd yn un o bedwar gweinidog Methodistaidd yn y Dref . Ef yn Engedi, D. Elwyn Edwards yn Beulah, T.Gwyn Jones yn Seilo a John Roberts ym Moriah. Erbyn hyn does ond un gweinidog, yn wir dim ond un achos Methodistaidd yng Nghaernarfon. Dim ond Seilo. “Ac un o blant Engedi ydy hi,” meddai Trefor Jones. “ Mae’r Parchedig Gwenda Richards bellach yn weinidog arna’ inna,” ychwanegodd gyda gwên lydan.
A beth am ddyfodol Engedi? “Mae o wedi bod yn ddolur i’r llygad ers blynyddoedd rwan,” meddai Trefor Jones. “Yn bersonol, sa well gen i’i weld o’n cael ei dynnu i lawr. Go brin y digwydd hynny, fodd bynnag, gan ei fod yn adeilad cofrestredig ers 1987. Bydd cynllun a phileri mawreddog 1867 y pensaer Richard Owen o Lerpwl (ond yn wreiddiol o’r Ffôr) yn gorfod cael eu cadw.