
Dyma fi o’r diwedd wedi cael mynd allan am ginio efo 7 o Genod ‘Mêts y Mis’ Papur Dre, a fu ddim rhaid i mi fynd i mhoced o gwbl. Diolch am yr Ham Baguette genod a mi wela i chi mis nesa i gael y pwdin. Dyma, Menai, Jean, Marian, Gwyneth, Carys, Winnie a Laureen sy’n cyfarfod bob mis yn Y Celt i gael cinio bach ysgafn a sgwrs go iawn. Mae hyn yn mynd ymlaen ers 15 mlynedd. Mae ‘na dipyn o fwyd wedi mynd lawr Lôn Goch ‘does? Cyn ddisgyblion Ysgol Segontiwm ydy’r 7, a’r pwnc trafod y mis yma oedd lle i fynd ar drip dros y môr. Roedd Menai a Jean yn ffafrio Brynsiencyn, a Gwyneth a Carys ffansi mynd dros y swnt i Enlli. Braidd yn swil oedd y 3 arall. Diolch eto genod a welwn ni chi yn FUAN!